Mae grŵp sy’n cynrychioli cefnogwyr pêl-droed y gogledd, wedi trefnu cyfarfod gyda Trenau Arriva Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn gweld os oes modd trefnu i ffans deithio adref o gemau ar drenau.
Mae’r FSF Gogledd Cymru (Football Supporters Federation) wedi trefnu nifer o fysus i’r gemau catref diweddar, ond mae llawer yn meddwl y byddai pethau’n well o gael trenau’n redeg ar ôl gemau.
“Mae’r ffaith bod rhywun o drenau Arriva wedi cytuno i gwrdd â ni yn ddechrau da,” meddai llefarydd ar ran FSF Gogledd Cymru. “Mi fasa trenau lawr i Gaerdydd ac yn ôl ar ddiwrnod y gemau yn wych, yn enwedig i’r cefnogwyr ger Wrecsam a’r arfordir – eto bydd rhaid bod yn fforddiadwy ac amseroedd call.”
Bwriad y grŵp ydi gwella cysylltiadau rhwng Cymdeithas Pêl-droed Cymru a’r cefnogwyr yn y gogledd, ac mi fydd hyn yn destun trafod nos Iau, Ionawr 26 yn y Cae Ras.
Mae’r grŵp hefyd yn trefnu cludiant i’r gêm holl bwysig yn Nulyn ddiwedd mis Mawrth yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.