Craig Davies (Llun: gwefan Wigan Athletic)
Mae cyn-ymosodwr Cymru, Craig Davies, wedi gadael Wigan Athletic yn y Bencampwriaeth er mwyn ymuno â cheffylau blaen yr Adran Gyntaf, Scunthorpe United, tan ddiwedd y tymor.

Mae Craig Davies wedi cynrychioli sawl clwb yn ystod ei yrfa, gyda chyfnod gwych yn Chesterfield yn 2010-11 pan sgoriodd 23 gôl mewn 41 ymddangosiad.

Enillodd saith cap i Gymru, rhwng ei gêm gynta’ yn erbyn Slofenia yn 2005 a’r ola’ yn 2013 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.

Mae Scunthorpe nawr yn yr ail safle ac yn gobeithio mai Craig Davies fydd y chwaraewr fydd yn rhoi hwb iddyn nhw am weddill y tymor.