Gwion Edwards yn herio Abertawe gyda Peterborough (Llun: Tommie Collins)
Diwrnod trydedd rownd Cwpan FA Lloegr. Diwrnod allweddol yn y calendr pêl-droed, diwrnod siociau. Pwy all anghofio Wrecsam v Arsenal ’92, Henffordd v Newcastle ’72, a Sutton v Coventry ’89.

Ddydd Sul yn Stamford Bridge, stadiwm Chelsea, bydd Peterborough a’u 6,000 o gefnogwyr yn ceisio creu sioc arall wrth guro’r cewri Chelsea.

Yn nhîm ‘Y Posh’ fydd Gwion Edwards, sy’n wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan.

Gydag academi Aberystwyth y dechreuodd ei yrfa, ac roedd sgowtiaid Abertawe wedi sylwi ar sgiliau’r bachgen ifanc o Geredigion.

Symudodd i Abertawe yn y pen draw, ac fe ddywedodd wrth Golwg360, “ Roedd yn brofiad gwych i  gael chwarae gemau’n rheolaidd.”

Ar fenthyg

Roedd garfan gref gan yr Elyrch ac mi aeth Gwion ar fenthyg i St Johnstone yn Uwch Gynghrair Alban, lle chwaraeodd mewn 19 gêm.

Roedd cyfleoedd yn Abertawe’n brin ac ar ôl ei gyfnod yn yr Alban, symudodd i Crawley ar fenthyg.

“Roedd yn wych yn Crawley, mi wnes i ddechrau bob wythnos a dyna yw’r peth, chwarae bob wythnos,” meddai Gwion.

“Roedd yn amlwg nad oedd dyfodol gyda’r Elyrch ac mi wnes i arwyddo’n llawn amser  i Crawley, mi wnes i sgorio 12 gôl mewn 79 gêm iddyn nhw. Roedd Peterborough wedi bod yn fy ngwylio ac eisiau fy arwyddo, roedd yn benderfyniad hawdd.”

Mae Gwion wedi cael tymor gwych hyd yn hyn wrth sgorio naw gôl mewn 31 gêm.

Meddai Gwion, “Mae hyn i lawr i’r rheolwr Grant Mcann, symudodd fi o’r asgell i ochr chwith y diemwnt; dwi’n cael llawer mwy o’r bêl.

“Alla’i ddim aros tan yfory, gêm fwya fy ngyrfa, i gael chwarae yn erbyn sêr Chelsea, ond rwy’n gobeithio na fydd David Luiz yn chwarae rhag ofn iddo fy nghicio dros y cae!

“Gêm gwpan yw hi, ac mae’n bosib i rywbeth ddigwydd, ond y gobaith yw, 1-0 i ddim i ni neu gêm gyfartal.”

Cymru

Cafodd Gwion ei alw i garfan Cymru am y gemau yn erbyn Bosnia a Chyprus yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016. Mae hyn wedi rhoi blas iddo, ac fe wyliodd yr Ewros yn Abertawe fel cefnogwr.

Meddai Gwion, “Roedd yn gyflawniad anferth, mi wnes i fwynhau bob munud, mi wnes i fynychu’r gêm ddiweddar gartref yn erbyn Georgia fel cefnogwr – ond y gobaith yw gyda fy mherfformiadau i Peterborough y galla i greu argraff ar y tîm rheoli a chael fy ngalw i’r garfan eto.”