Paul Clement (Llun: golwg360)
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi penodi Dan Altman, arbenigwr Americanaidd ar adnabod gwerth chwaraewyr, wrth iddyn nhw geisio denu chwaraewyr newydd i’r clwb yn ystod mis Ionawr.
Cafodd y prif hyfforddwr newydd, Paul Clement ei gyflwyno’n swyddogol i’r wasg yn Stadiwm Liberty ddydd Iau ar ôl arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner i olynu Bob Bradley.
Cyn ei ddiswyddo, roedd Bob Bradley wedi awgrymu bod y broses o adnabod chwaraewyr newydd wedi dechrau, ond mae Paul Clement wedi dweud bod ganddo fe ei syniadau ei hun er mwyn cryfhau’r tîm.
Dywedodd Paul Clement: “Dw i wedi cael sicrwydd gan y clwb fod cyfle yma i brynu chwaraewyr yn y ffenest drosglwyddo.
“Cyn i fi ddod yma, roedd trafodaethau a thargedau, dw i’n gwybod am y targedau hynny nawr.
“Dw i’n dod â fy syniadau fy hun o ran lle mae angen i ni gryfhau a chwaraewyr dw i wedi eu gweld ac yn eu hoffi.”
Ond fe ychwanegodd fod y chwaraewyr presennol hefyd yn haeddu cyfle i brofi eu gwerth yn dilyn y fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Crystal Palace nos Fawrth.
Fe fydd gwaith Dan Altman yn canolbwyntio ar ddadansoddi ystadegau, maes sy’n gyfarwydd i Paul Clement yn dilyn cyfnodau fel is-hyfforddwr Carlo Ancelotti yn rhai o glybiau mwya’r byd, gan gynnwys Bayern Munich, Chelsea, Real Madrid a Paris St Germain.
“Dw i’n gredwr y dylai dadansoddi ystadegau fod yn rhan o’r jig-so sy’n cyd-fynd â helpu i recriwtio chwaraewyr ac asesu’ch tîm eich hunan,” meddai.
“Mae gyda fi brofiad o hyn, dw i wedi teithio i’r Unol Daleithiau ac wedi ymweld â nifer o dimau chwaraeon sy’n defnyddio data. Dw i’n credu y dylai gael ei ddefnyddio fel rhan o’r broses o benderfynu pwy sy’n dod i’r clwb.
“Ond un rhan o’r peth yw e, oherwydd allwch chi ddim diddymu arbenigedd sgowtio, galwadau ffôn i gael gwybodaeth am gymeriad chwaraewyr a’u proffesiynoldeb.
“Byddwn ni’n defnyddio data fel rhan o’r darlun cyflawn.”
Tîm hyfforddi newydd
Mae Nigel Gibbs wedi’i benodi’n is-hyfforddwr yn lle Alan Curtis, a Karl Halabi wedi’i benodi’n Bennaeth Perfformiad Corfforol yn lle Pierre Barrieu, yr hyfforddwr ffitrwydd a adawodd y clwb yn dilyn diswyddo Bob Bradley.
Mae amheuon hefyd ynghylch dyfodol Paul Williams, a gafodd ei benodi’n is-reolwr o dan Bob Bradley.
Mae’r clwb wedi dweud y bydd swyddi “amgen” yn cael eu cynnig i Alan Curtis a Paul Williams maes o law.