Casnewydd 0–1 Plymouth (wedi amser ychwanegol)        

Fydd dim gêm yn erbyn Lerpwl yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr i Gasnewydd wedi iddynt golli yn erbyn Plymouth ar Rodney Parade nos Fercher.

Taith i Anfield a oedd yn aros yr enillwyr wrth i’r Alltudion a Plymouth ail chwarae eu gêm ail rownd yn ne ddwyrain Cymru yn dilyn gêm gyfartal yn Home Park ar ddechrau’r mis.

Wedi naw deg munud di sgôr roedd angen hanner awr arall i setlo pethau a bu rhaid aros tan saith munud o ddiwedd yr amser ychwanegol am unig gôl y gêm.

Daeth honno i Graham Carey o ddeuddeg llath. Roedd Paul Garita eisoes wedi methu un gic o’r smotyn i’r ymwelwyr yn hanner cyntaf yr amser ychwanegol ond wnaeth Carey ddim mo’r un camgymeriad yn dilyn trosedd Darren Jones ar David Goodwillie yn y cwrt cosbi.

Doedd fawr o amser i Gasnewydd daro nôl a daliodd Plymouth eu gafael ar y gôl o fantais i sicrhau taith broffidiol i Anfield yn y flwyddyn newydd.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Barnum-Bobb, Jones, Bennett, Myrie-Williams, Tozer, Labadie (Meite 116’), Sheehan, Wood (Green 67’), Jackson (O’Hanlon 67’), Healey

Cerdyn Melyn: Jones 72’

.

Plymouth

Tîm: McCormick, Miller, Songo’o, Bradley, Threlkeld, Fox, Smith, Carey, Tanner (Garita 69’), Jervis (Goodwillie 69’), Slew

Gôl: Carey [c.o.s.] 113’

Cerdyn Melyn: Bradley 89’

.

Torf: 5,121