Cei Connah 0–3 Y Seintiau Newydd     
                                      

Mae rhediad anhygoel y Seintiau Newydd yn Uwch Gynghrair Cymru yn parhau wedi iddynt guro Cei Connah yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy nos Sadwrn.

Mae’r pencampwyr bellach wedi ennill pedair gêm ar bymtheg gyntaf y tymor ar ôl trechu’r tîm sydd yn ail o dair gôl i ddim.

Pedwar munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Scott Quigley’r Seintiau ar y blaen gyda hanner foli gadarn i’r gornel uchaf.

Cei Connah a oedd y tîm gorau am gyfnod wedi hynny ond gwastraffodd Les Davies gyfle da i unioni pethau hanner ffordd trwy’r hanner pan beniodd heibio’r postyn o groesiad Nathan Woolfe.

Dechreuodd yr ymwelwyr yr ail hanner, fel y cyntaf, gyda gôl. Greg Draper a oedd y sgoriwr y tro hwn, yn manteisio ar gamgymeriad yng nghanol amddiffyn y Nomadiaid cyn gorffen yn daclus heibio i Jon Rushton.

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel toc cyn yr awr pan rwydodd Connell Rawlinson wedi i bêl hir obeithiol ddisgyn yn garedig iddo yn y cwrt chwech.

Cafodd eilydd ifanc y tîm cartref, Declan Poole, gyfle da i dynnu un yn ôl i’r tîm cartref a tharodd Les y trawst gyda pheniad da yn y munudau olaf ond dal eu gafael ar eu llechen lân a wnaeth y Seintiau wrth ennill yn gyfforddus.

Mae’r canlyniad yn rhoi’r Seintiau un pwynt ar hugain yn glir o Gei Connah ar frig Uwch Gynghrair Cymru.

.

Cei Connah

Tîm: J. Rushton, Disney, Harrison (M.Owen 80’), Morris, Davies, N. Rushton (Poole 62’), Smith, Woolfe, J. Owen, Baynes (Rimmer 56’), Short

Cerdyn Melyn: Harrison 76’

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Baker (Jones 82’), Rawlinson, Saunders, Edwards, Brobbel, Quigley, Darlington (Pryce 80’), Draper (Cieslewicz 65’)

Goliau: Quigley 4’, Draper 46’, Rawlinson 58’

Cerdyn Melyn: Marriott 70’

.

Torf: 274