Mike van der Hoorn
Mae rheolwr Abertawe wedi awgrymu y gallai Alfie Mawson a Mike van der Hoorn ddechrau yng nghanol yr amddiffyn heno wrth i’w dîm deithio i’r Hawthorns i herio West Bromwich Albion yn yr Uwch Gynghrair.
Gallai buddugoliaeth i’r Elyrch eu codi allan o’r gwaelodion unwaith eto wrth iddyn nhw gwrso ail fuddugoliaeth o’r bron am y tro cynta’ y tymor hwn ar ôl trechu Sunderland o 3-0 yr wythnos ddiwetha’.
Fe fydd yr Elyrch yn dod wyneb yn wyneb ag ymosodwr 6’1” heno, Salomon Rondon sy’n golygu y gallai’r amddiffynwyr dreulio cryn dipyn o’r gêm yn brwydro am y bêl yn yr awyr.
Mae Alfie Mawson a Mike van der Hoorn wedi chwarae gyda’i gilydd mewn tair gêm yn unig y tymor hwn, gan ildio chwe gôl – tair gartref yn erbyn Man U a thair yn Stoke. Ond fe lwyddon nhw i gadw llechen lân yn erbyn Watford.
Jordi Amat yw’r unig opsiwn arall sydd ar gael i’r rheolwr Bob Bradley yn absenoldeb yr Archentwr Federico Fernandez, fydd allan hefyd ar gyfer y daith i Middlesbrough ddydd Sadwrn.
Ac er gwaetha’r awgrym mai Alfie Mawson a Mike van der Hoorn fydd yn dechrau, fe allai Bob Bradley gael ei ddylanwadu gan y ffaith mai Jordi Amat ac Alfie Mawson oedd y ddau yng nghanol yr amddiffyn ar gyfer y fuddugoliaeth yr wythnos ddiwetha’.
Partneriaethau
Dywedodd Bob Bradley wrth golwg360: “Dw i’n credu bod y ddealltwriaeth rhwng Jordi ac Alfie yn dda, ond wrth ymarfer, ry’n ni hefyd wedi cael diwrnodau da wrth chwarae Mike gydag Alfie.
“Rhaid i chi baratoi ar gyfer yr holl bosibiliadau. Ry’n ni’n gwella’r ddealltwriaeth rhwng gwahanol bartneriaethau.
“Os ydych chi’n sôn am frwydrau yn yr awyr, mae gan Mike ychydig o fantais dros Jordi, ac mae’n bosib fod gan Alfie fantais dros Jordi hefyd. Ond mewn sefyllfaoedd eraill, mae Jordi yn gweithio’n dda i glirio ar ôl pobol eraill ac yn darllen sefyllfaoedd sy’n rhoi mantais iddo yntau.
“Pan fo gyda chi amddiffynwyr canol ifainc ac yn ceisio datblygu pob un ohonyn nhw, rhaid i chi edrych ar bob math o fanylion.
“Ar ddiwedd y dydd, ry’ch chi am gael cysondeb, llechen lân a phenderfynu a ydyn nhw [y gwrthwynebwyr] yn chwarae’n uniongyrchol neu’n fawr. A ydw i’n hapus gyda’u perfformiad yr wythnos diwethaf? A yw’n bryd newid rhywbeth? Dyna’r trafodaethau sydd i’w cael.
“Ond maen nhw’n mynd i’r cyfeiriad cywir a dw i’n fodlon ar yr holl opsiynau sydd gyda ni.”
Trobwynt wrth guro Sunderland?
Dywed Bob Bradley fod hyder y garfan wedi codi yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Sunderland yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn diwetha’, ond mae’n gyndyn o ddweud bod y fuddugoliaeth yn drobwynt yn eu tymor.
“Mae hynny’n optimistaidd. Un o’r pethau pwysicaf oedd fod mwy o chwaraewyr wedi chwarae’n dda.
“Yr allwedd i drobwynt yw cael chwaraewyr yn chwarae’n well ym mhob gêm boed ni’n cadw at yr un tîm neu’n gwneud newidiadau.
“Hyd yma, mewn pymtheg gêm, byddai eiliadau positif i’w cael ym mhob un ohonyn nhw, ond doedd dim cysondeb.
“Ry’n ni’n teimlo’n dda am bethau, ond rhaid i ni fynd ati unwaith eto yn yr un modd. Gobeithio bod y gwaith ry’n ni’n ei wneud er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwybod lle’r y’n ni arni’n dechrau dod yn amlwg.
“Rhaid i chi greu ymdeimlad ein bod ni ynddi gyda’n gilydd. Rhaid torchi llewys a chreu rhywbeth arbennig.”
Paul Williams yn adnabod Tony Pulis
Fe fydd Bob Bradley yn gobeithio bod profiad ei is-reolwr Paul Williams o gydweithio fel chwaraewr â’r Cymro Tony Pulis yn dwyn ffrwyth heno.
Mae rheolwr West Brom wedi arwain ei dîm i’r wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair gan ddefnyddio’i ddull unigryw ac adnabyddus o chwarae.
“Mae Paul yn adnodd gwych ac mae’n cyflwyno gwybodaeth dda,” meddai Bob Bradley. “Ry’n ni’n gweithio’n dda fel staff. Dw i’n arwain tipyn o’r trafodaethau ond dw i am i’r bois i gyd herio’i gilydd.
“Ry’n ni’n gwybod fod timau Tony yn hoffi cadw eu siâp a chael eu chwarae gosod yn gywir.
“Yn nhermau rhoi cyfle i ni’n hunain ym mhob gêm, rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cadw ein siâp ni ac ymosod ac amddiffyn chwarae gosod yn dda ar ôl gwneud y gwaith paratoi.
“Mae’r ddau beth yna’n fannau cychwyn da, a dyna mae Tony yn ei wneud yn dda hefyd.”
Y timau
Ac eithrio Federico Fernandez, dim ond Ki Sung-yueng o blith chwaraewyr Abertawe sydd wedi’i anafu.
Mae Jefferson Montero yn parhau i wella ar ôl dychwelyd ar ôl anaf, ond mae’n annhebygol y bydd yn dechrau’r gêm.
Dyw ymosodwr West Brom, Saido Berahino, ddim ar gael yn dilyn anaf ac mae’r amddiffynwr de Craig Dawson wedi’i wahardd ar ôl chwarae mewn 53 gêm gynghrair o’r bron.