Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock wedi dweud ei fod yn bwriadu “dweud y drefn” wrth amddifynnwr yr Adar Gleision, Sol Bamba yn dilyn y gêm yn erbyn Ipswich ddydd Sadwrn.

Cafodd yr amddiffynnwr ei anfon o’r cae am herio’r pedwerydd swyddog yn y gêm a ddaeth i ben yn gyfartal 1-1.

Ar ôl i Sol Bamba gael ei daclo’n flêr gan Jonathan Douglas, fe aeth at y pedwerydd swyddog Charles Breakspear cyn gwthio’i ffisiotherapydd ei hun, ac wfftio ymdrechion ei reolwr i’w dawelu.

Bu’n rhaid i’r Adar Gleision chwarae gyda 10 dyn am yr 20 munud olaf ar ôl i Aron Gunnarson a Luke Varney rwydo i’w timau.

Dywedodd Neil Warnock: “Does gyda fi ddim cwynion am y cerdyn coch. Dw i’n siomedig ein bod ni’n colli un o’n chwaraewyr gorau am dair gêm.

“Do’n i ddim wir eisiau siarad â Sol ar ôl y gêm felly fe fydda i’n siarad â fe fory. Wnaeth e golli’i limpyn ond roedd ei agwedd yn ymosodol a dw i ddim yn cymeradwyo ymddygiad Sol.”

Er gwaetha’r cerdyn coch, cafodd yr Adar Gleision sawl cyfle i sgorio yn y munudau olaf.

Dywedodd rheolwr Ipswich, Mick McCarthy: “Dw i wedi gweld chwaraewyr yn ei cholli hi, a dw i wedi’i cholli hi fy hun, ond byth yn erbyn pedwerydd swyddog.

“Roedd hi’n dacl flêr fwy na thebyg ond allwch chi ddim cymeradwyo beth wnaeth e – roedd e’n llwyr haeddu cael ei anfon o’r cae.”