Roedd hi’n gêm galed oddi cartre’ i Ddreigiau Gwent heddiw, gyda Chaerwrangon yn cael y gorau arnyn nhw yn y sgarmes ac wrth gicio.

Er mai dim ond un pwynt oedd ynddi ar yr hanner (7-6 i’r tim cartre’), fe aeth pethau i lawr rhiw yn gyflym i’r Dreigiau ar ddechrau’r ail hanner.

Fe duriodd Dean Hammond yn y cornel dros Gaerwrangon wedi 43 munud. Yna, fe ildiodd y Dreigiau ddwy gic gosb o fewn deng munud (ar 49 munud a 59 munud), ac fe fanteisiodd Caerwrangon ar y ddau gyfle.

Fe roddwyd cerdyn melyn i Brok Harris ar ol 57 munud o chwarae, ac fe dewisodd Caerwrangon fynd am y sgrym. Ond yna, mae Leon Brown, a ddaeth ar y cae yn lle Brok Harris, yn cael ei anfon i’r gell gosb.

Dau gais o fewn munud

Halen ar y briw, ar ol 73 munud, oedd cais arall i Gaerwrangon, gyda Max Stelling yn dwyn y bel oddi ar gic gan Tavis Knoyle, a rhedeg o’r llinell 10 metr dros y llinell gais.

Ond yna, fe ddaeth cais annisgwyl i’r Dreigiau, gyda Rynard Landman yn pasio’n hyfryd i’r asgellwr, Ashton Hewitt, sy’n croesi… cyn croesi am yr ail waith o fewn munud a sgorio cais arall wedi 78 munud. Y sgor bellach yn 33-20, a neb cweit yn deall sut!

Mae un peth yn sicr – fe gollwyd y gem i’r Dreigiau yn yr hanner cynta’.