Dydy Gylfi Sigurdsson ddim yn cael digon o glod am ei berfformiadau yng nghrys Abertawe, yn ôl rheolwr Abertawe Bob Bradley.

Mae’r chwaraewr ymosodol o Wlad yr Iâ wedi sgorio pum gôl yn yr Uwch Gynghrair wrth i’r Elyrch barhau i arbrofi gyda’u hopsiynau ymosodol, gyda’r Sbaenwyr Fernando Llorente a Borja Baston wedi methu â thanio’n llawn y tymor hwn.

Ac roedd e ymhlith y sgorwyr unwaith eto’r wythnos diwethaf wrth i’r Elyrch ennill gêm gyffrous  o 5-4 yn erbyn Crystal Palace yn Stadiwm Liberty.

Mae Bob Bradley yn gobeithio y bydd profiad Gylfi Sigurdsson o chwarae dros Spurs cyn symud i Stadiwm Liberty o fudd i’r Cymry wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gyntaf erioed yn yr Uwch Gynghrair yn White Hart Lane.

Mae Gylfi Sigurdsson wedi sgorio mewn dau allan o’i dri ymweliad â White Hart Lane gydag Abertawe.

Dywedodd Bob Bradley: “Mae e wedi bod mor bwysig i ni. Dw i’n gwybod hefyd ei fod e’n bwysig cyn i fi gyrraedd.

“Mae e wedi creu argraff arna i o ran ei amlochredd. O safbwynt ymosodol, mae e’n basiwr clyfar. Yn amlwg mae ei sgiliau mewn chwarae gosod, i fi, ar y lefel uchaf.

“A hefyd, dw i ddim yn credu ei fod e’n cael digon o glod yn amddiffynnol, wrth iddo’i gwneud hi’n anodd i’r chwaraewyr sy’n rhydd i chwarae eu gêm eu hunain.

“Mae e’n camu i fyny, yn cau bylchau ac yn symud o’r naill ochr i’r llall, felly mae e’n helpu i greu pwysau. Mae e’n gwneud cryn dipyn o waith.

“Mae e’n chwaraewr dawnus ag iddo fe rinweddau ymosodol ac mae e’n chwaraewr sy’n gweithio’n galed i’r tîm.”

‘Diffyg canolbwyntio – nid diffyg strwythur’

 “Diffyg canolbwyntio”, ac nid diffyg strwythur, sydd i gyfri am dymor siomedig Abertawe hyd yn hyn, yn ôl Bob Bradley.

Ond mae’r rheolwr Americanaidd yn nes at wybod pwy yw ei 11 chwaraewr gorau erbyn hyn, er gwaethaf perfformiad siomedig yr amddiffyn wrth iddyn nhw ildio pedair gôl yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn diwethaf, wrth i’r Elyrch ennill o 5-4 yn Stadiwm Liberty.

“Mae rhai arwyddion positif erbyn hyn ond yn amlwg wrth ymarfer, mae disgwyl bod hynny’n codi lefelau’r bois eraill fel bod mwy o gystadleuaeth.

“Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt lle mae [dewis y tîm] yn digwydd yn awtomatig. Roedden ni’n teimlo bod gennym y tîm cywir ar gyfer dwy gêm yn olynol, a fyddwn i ddim yn disgwyl newidiadau mawr yr wythnos hon, ond mae cystadleuaeth am lefydd a llawer o gemau ar y gorwel.

“Ry’n ni am i’r bois deimlo’n dda a bod gyda nhw obaith o gael cyfleoedd, a bod y drws ar agor i’r rheiny sy’n ymarfer yn dda.”

Record siomedig yn White Hart Lane

Yn ôl Bob Bradley, mae e a’i dîm yn awyddus i osgoi ailadrodd eu perfformiad yng ngogledd Llundain y tymor diwethaf pan gollon nhw o 2-1 yn White Hart Lane ym mis Chwefror.

“Pan ydych chi’n chwarae yn erbyn timau da, dyw e ddim yn hawdd, ond dyna’r her. Mae angen strwythur da arnoch chi, ond meddylfryd sy’n gyfrifol am hynny ac ry’n ni wedi pwysleisio bod angen i ni gamu i fyny a mynd ar eu hôl nhw.

“Dy’n ni ddim am iddyn nhw deimlo mai nhw sy’n rheoli’n llwyr.”

Ond sut mae anghofio record siomedig yr Elyrch ar gae White Hart Lane?

“Pan fo gyda chi’r fath sefyllfa, ry’ch chi fel arfer yn chwarae yn erbyn tîm da lle mae pawb yn ei chael hi’n anodd mynd yno ac ennill, felly rhaid i chi ei weld fel cyfle.

“Fy agwedd i yw fod rhaid i chi fynd yno a chwarae ar y droed flaen a’u rhoi nhw dan bwysau.

“Gall fod cyfnodau anodd fel hynny… ond ry’ch chi am fynd yno a cheisio bod yn glyfar a chwarae ein math ni o bêl-droed.”

Y timau

 Mae capten Abertawe, Leon Britton yn holliach ar ôl colli’r ddwy gêm diwethaf ag anaf i groth ei goes ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd e’n chwarae’r gêm gyfan.

Mae Ki Sung-yueng allan o hyd ar ôl torri bys ei droed.

Mae Danny Rose ar gael i Spurs unwaith eto yn dilyn gwaharddiad, ond mae’r Cymro a chyn-amddiffynnwr chwith yr Elyrch, Ben Davies wedi anafu ei ffêr.

Mae Erik Lamela hefyd wedi anafu ei glin, ond mae newyddion gwell o ran chwaraewr rhyngwladol Gwlad Belg, Toby Alderweireld sy’n dychwelyd ar ôl naw wythnos allan ag anaf i’w ben-glin.

Ystadegau

 Mae Spurs yn ddi-guro yn erbyn Abertawe mewn 10 gêm yn yr Uwch Gynghrair, gydag wyth buddugoliaeth a dwy gêm gyfartal.

Dydy’r Elyrch ddim wedi curo’u gwrthwynebwyr mewn unrhyw gystadleuaeth ers mis Medi 1991, pan enillon nhw o 1-0 yng Nghwpan y Gynghrair.

Mewn gemau rhwng y ddau dîm yn y gynghrair yn White Hart Lane, mae’r Elyrch wedi colli 16 gwaith ac wedi cael dwy gêm gyfartal.

Mae Spurs yn ddi-guro mewn gemau gartref yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, ond dim ond un fuddugoliaeth gawson nhw yn y gynghrair yn eu 10 gêm diwethaf.

Mae Abertawe bellach yn ddi-guro mewn dwy gêm yn olynol ac mae arwyddion y gallai eu tymor gael ei wyrdroi wrth iddyn nhw frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Mae’r Elyrch wedi ildio o leiaf dair gôl bedair gwaith yn eu chwe gêm diwethaf yn yr Uwch Gynghrair, a dim ond un llechen lân gawson nhw yn eu 12 gêm gynghrair diwethaf.