Bob Bradley
Mae is-reolwr newydd tîm pêl-droed Abertawe, Paul Williams wedi profi mewn cyfnod byr iawn ei fod yn gaffaeliad i’r clwb, yn ôl y rheolwr Bob Bradley.
Cafodd y Sais ei benodi i’r swydd naw niwrnod yn ôl ac roedd wrth ochr yr Americanwr ar gyfer y daith i Barc Goodison i herio Everton ddydd Sadwrn diwethaf.
Ac fe gaiff e gyfle i fod yn ardal dechnegol y Liberty am y tro cyntaf wrth i Abertawe groesawu Crystal Palace i dde Cymru y prynhawn yma.
Fe ddaeth i Stadiwm Liberty yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda thîm dan 20 Lloegr a chyn hynny, roedd yn hyfforddwr gyda llu o glybiau, gan gynnwys Southampton, Wolves a Nottingham Forest.
Yn ôl Bob Bradley, mae ei gynorthwy-ydd newydd yn cynnig pâr ychwanegol o lygaid ar y cae ymarfer yn Fairwood, a phersbectif gwahanol yn ystod gemau.
Mae’r is-reolwr newydd yn ychwanegiad cryf at dîm hyfforddi sydd eisoes yn cynnwys un o hoelion wyth y clwb, Alan Curtis.
Dywedodd Bob Bradley wrth Golwg360: “Mae Paul yn foi da. Mae e’n dod â phersonoliaeth hollol wahanol i’r hyn oedd gyda ni ar y staff hyfforddi.
“Dw i wedi dweud droeon fod Curt [Alan Curtis] yn dal yn bwysig yn nhermau ei bersbectif. Ond mae Paul hefyd yn bositif, yn hawddgar ac mae hynny’n fy ngalluogi i weithiau, yn dibynnu ar yr hyn ry’n ni’n ei wneud wrth ymarfer, i gamu’n ôl rywfaint.”
Ond mae’r rheolwr yn benderfynol nad yw penodi Paul Williams yn golygu bod ganddo rywun i guddio y tu ôl iddo wrth baratoi’r tîm ar gyfer gemau.
“Dwi’n mynd i ymdrechu i sicrhau bod fy mhersonoliaeth yn dal yn rhan o’r hyn sy’n digwydd a bod fy mhersonoliaeth yn bwysig wrth osod safonau heb orfod bod yn brif lais bob amser.
“Dw i’n deall ar ôl cynifer o flynyddoedd fod chwaraewyr yn ymateb i wahanol leisiau a dw i’n credu bod Paul wedi bod yn un da ers iddo gyrraedd.”
Dadansoddi’r canlyniad yn Everton
Wrth i’r Elyrch baratoi ar gyfer y gêm y prynhawn yma, mae Bob Bradley yn dweud bod ei gynorthwy-ydd wedi bod yn allweddol yn y broses o ddadansoddi’r hyn oedd wedi costio dau bwynt i’r tîm wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal 1-1 yn Everton wythnos yn ôl.
Aethon nhw ar y blaen ar ôl i Gylfi Sigurdsson sgorio o’r smotyn ar ôl 41 o funudau, ond fe darodd Everton yn ôl drwy Seamus Coleman ar ôl 89 munud i sicrhau’r pwynt.
Ychwanegodd y rheolwr: “Fe wnaethon ni edrych ar nifer o sefyllfaoedd yn yr ail hanner. Gêm sy’n seiliedig ar benderfyniadau yw pêl-droed. Mae adegau pan wnaethon ni ennill y bêl a cheisio cyflawni’r bàs gyntaf o dan bwysau.
“Roedd y bàs naill a’i rhy araf neu ddim yn ddigon da ac roedd Everton wedi gallu adennill y meddiant.
“Yn y sefyllfa honno, roedd Paul wedi gallu dweud a ddylen ni fod wedi rhoi cynnig ar y bàs honno neu symud y bêl i mewn i fwlch drwy’r canol, felly gall hynny arwain at drafodaeth dda.
“Gwnes i a Paul edrych ar y mathau hyn o sefyllfaoedd ac efallai nad oedden nhw’n eu gweld nhw yn yr un modd, ond mae trafodaeth o’r fath yn beth da wrth i ni helpu’r chwaraewyr i ddadansoddi’r gêm.
“Dw i wedi dysgu ar hyd y blynyddoedd na allwch chi ddweud wrth chwaraewyr beth i’w wneud ym mhob sefyllfa. Mae’r gêm yn rhy gyflym ac yn gofyn am benderfyniadau mympwyol. Y timau gorau sy’n gwneud y penderfyniadau gorau.
“Creu sefyllfaoedd lle nad oes fawr o amser na gofod sy’n digwydd fwyaf ar y cae ymarfer, ac mae angen iddyn nhw benderfynu’n gyflym beth yw’r dewis gorau.
“Dyna enghraifft lle galla i a Paul roi safbwyntiau cyferbyniol, ond sicrhau ar yr un pryd fod y neges sy’n cael ei rhoi i’r tîm yn gytbwys ac y gallan nhw weld y ddwy ochr.”