Symudodd Fernando Llorente o Sevilla i Abertawe am £5 miliwn dros yr haf (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Cyfrifoldeb y chwaraewr yw cadw trefn ar ei asiant yn y byd pêl-droed, yn ôl rheolwr Abertawe, Bob Bradley.

Roedd yr Americanwr yn ymateb i ffrae sy’n corddi rhwng yr ymosodwr o Sbaen, Fernando Llorente a’r clwb yn dilyn sylwadau gan ei frawd, sydd hefyd yn gweithio fel ei asiant.

Yn ôl y wasg yn yr Eidal, mae’r ymosodwr yn awyddus i ddychwelyd i gynghrair Serie A, lle treuliodd gyfnod llwyddiannus gyda Juventus.

Mae’r ymosodwr, a enillodd fedal Cwpan y Byd gyda Sbaen yn 2010, yn cael ei gysylltu â chlwb Napoli, fydd yn ceisio arwyddo ymosodwr pan fydd y ffenest drosglwyddo’n agor unwaith eto ym mis Ionawr.

Dydy e ddim wedi ei chael hi’n hawdd ar y Liberty ers i”r Americanwr ddisodli Francesco Guidolin, y rheolwr a’i ddenodd i Abertawe dros yr haf.

Bryd hynny, fe dalodd yr Elyrch £5 miliwn i Sevilla, clwb sy’n chwarae yn La Liga yn Sbaen.

Dywedodd ei frawd yn gynharach yr wythnos hon: “Dydy pethau ddim yn mynd yn dda iawn.

“Roedd newid yn yr hyfforddwr yn anodd gan fod Guidolin eisiau Fernando. Ond mae fy mrawd am godi ei safonau a chodi Abertawe, dyna’i ‘unig nod’.

“Ry’n ni’n nabod yr Eidal, mae’r gynghrair yn wych. Ond mae Fernando wedi chwarae i Juventus. Gall unrhyw beth ddigwydd yn y byd pêl-droed ac allwch chi fyth dweud ‘byth bythoedd’. Ond mae ymdeimlad arbennig yn perthyn i Juve.”

‘Asiantiaid yn fy ngwylltio’

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Bob Bradley ei fod yn “gwylltio” o glywed sylwadau asiantiaid am chwaraewyr, ond bod cyfrifoldeb ar y chwaraewyr i gadw trefn ar y rhai sy’n eu cynrychioli.

“Mae’n fy ngwylltio pan fo asiantiaid yn siarad am chwaraewyr, ond heb fod yno, alla i ddim wir dweud [beth gafodd ei ddweud].

“Dw i’n cael cyfarfodydd un-i-un gyda’r chwaraewyr lle dw i’n dweud wrthyn nhw fod y drws ar agor bob amser ac mae’n bwysig fod asiantiaid yn fy ffonio.

“Ond cyfrifoldeb y chwaraewr yw cadw trefn ar ei asiant. Mae asiant yn gweithio i’r chwaraewr. Dw i wedi dweud wrth nifer o chwaraewyr ar hyd y blynyddoedd mai eu cyfrifoldeb nhw yw e.”

Ffitrwydd

Dydy bywyd ddim wedi bod yn hawdd i Fernando Llorente ers iddo symud i dde Cymru.

Dim ond un gôl mae e wedi sgorio’r tymor hwn, ac mae e wedi cael sawl gêm siomedig yn ddiweddar.

Cafodd ei adael allan o’r garfan ar gyfer y daith i Everton yr wythnos diwethaf, ac mae’ rheolwr wedi awgrymu nad yw dull yr Elyrch o chwarae o dan ei arweiniad yn gweddu i’w sgiliau.

Serch hynny, mae’n mynnu bod ganddo fe ddyfodol yn Abertawe.

“Mae gan Fernando ddyfodol yma, mae e’n foi da. Fe ges i sgwrs dda iawn gyda Fernando wrth i fi ddweud wrtho fe na fyddai e yn y garfan ar gyfer y gêm yn erbyn Everton.

“Cyn iddo fe gyrraedd, roedd e wedi cael un anaf ar ôl y llall. Fe gyrhaeddodd e yma a chael sawl ergyd ac fe ddywedais i wrtho fe ’mod i wedi’i weld e’n chwarae a’n bod ni wedi datblygu gyda fe’n gorfforol, ond nad oedd e lle’r oedd angen iddo fe fod.”

Yn ôl y rheolwr, chwaraewr sy’n gallu symud yn gyflym yw Fernando Llorente yn draddodiadol, ac nid ‘dyn targed’, ond fod ei ddiffyg cyflymdra ar hyn o bryd yn ei gyfyngu.

“Ro’n i’n teimlo hynny’n enwedig yn erbyn Stoke a Man U. Fel tîm, wnaethon ni ddim defnyddio Fernando yn ddigon da.

“Mae mwy i ddod ganddo fe,” meddai Bradley, ond mae’n cyfaddef fod y Sbaenwr yn sylweddoli hynny hefyd.

“Dw i’n credu ei fod yn anodd ar Fernando wrth glywed hynny ond mae e’n onest â’i hun. Pan nad yw e ar ei orau, mae e’n gwybod hynny.”