Mae Gareth Bale wedi dweud wrth ei gefnogwyr ei fod am wneud popeth o fewn ei allu i wella o’i anaf cyn gynted a bo modd.
Mae’r pêl-droediwr 27 oed yn cael trin ffêr ei goes dde ddydd Mawrth nesaf yn Llundain.
Roedd yn chwarae i’w glwb Real Madrid mewn gêm Cynghrair y Pencampwr yn erbyn Sporting Lisbon nos Fawrth pan gafodd ei dynnu oddi ar y cae ar ôl awr o chwarae gyda’r anaf.
Nid oes sicrwydd eto am ba hyd y bydd y seren allan o’r gêm, ond mae rhai adroddiadau’n sôn y gallai fod hyd at bedwar mis, er nad yw Real Madrid wedi cadarnhau hynny.
Mae hynny’n codi ambell gwestiwn ynglŷn â’i ffitrwydd ar gyfer gêm gymhwysol nesaf Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar Fawrth 24.
Mewn neges ar Twitter heddiw dywedodd Gareth Bale: “Diolch am y negeseuon i gyd. Y ffêr yn teimlo’n oce. Bydda i’n gwneud popeth i fod nôl ar y cae cyn gynted â phosib.”