Gareth Bale (Llu: Adam Davy/PA)
Fe gafodd ymosodwr Real Madrid a Chymru ei dynnu oddi ar y cae mewn gêm tros ei glwb neithiwr, gydag anaf i’w ffêr.

Heddiw, mae disgwyl cyhoeddiad ynglyn â pha mor ddrwg ydi’r anaf.

Roedd Gareth Bale yn chwarae i Real Madrid mewn gêm Cynghrair y Pencampwr yn erbyn Sporting Lisb0n, ac fe ddaeth oddi ar y cae ar ôl awr o chwarae ar gae Estadio Jose Alvalde.

Mae dwy gêm fawr gan Real Madrid yn y dyfodol agos – y naill yn erbyn Barcelona ar Ragfyr 3, a’r llall yn erbyn Borussia Dortmund.

Fe lwyddodd Real Madrid i guro Sporting Lisbon neithiwr, o ddwy gôl i un.