Bob Bradley (Llun: Wikipedia)
Mae tîm pêl-droed Abertawe’n “dal i gredu” y gallan nhw aros yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall er gwaetha’r dechrau siomedig i’r ymgyrch bresennol.

Dyna farn y rheolwr Bob Bradley yn dilyn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Everton ym Mharc Goodison brynhawn ddoe.

Mae’r canlyniad yn golygu bod yr Elyrch bellach ar waelod y tabl ar ôl i Sunderland sicrhau triphwynt yn erbyn Hull.

Dydyn nhw ddim wedi ennill ers iddyn nhw guro Burnley ar ddiwrnod cynta’r tymor.

Ond daethon nhw o fewn trwch blewyn i sicrhau’r fuddugoliaeth ar ôl i Gylfi Sigurdsson eu rhoi nhw ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Ond tarodd Everton yn ôl ar ôl 89 munud drwy beniad Seamus Coleman i sicrhau pwynt.

Bradley yw’r unig reolwr yn hanes Abertawe i fethu â sicrhau buddugoliaeth yn ei bum gêm gyntaf wrth y llyw.

Gobaith o hyd

Ond mae’n hyderus y gall e a’r tîm wyrdroi’r sefyllfa.

“Deuddeg gêm [wedi’u chwarae], ry’ch chi’n edrych ar y tabl ac yn gweld lle’r y’n ni ond ry’n ni’n dal i gredu yn yr ystafell newid.

“Mae rhai chwaraewyr o hyd yn dod i ymarfer bob wythnos gan wybod y gallwn ni ei gwneud hi os ewn ni o’i chwmpas hi yn y ffordd gywir.

“Dw i wedi bod mewn sefyllfaoedd gyda thimau lle dyw pethau ddim wedi bod yn hawdd ac mae’n rhaid i chi sefyll o flaen y grŵp a’u herio nhw.

“Rhaid i chi sicrhau nad ydyn nhw’n colli ffydd, fod ganddyn nhw ddewrder er mwyn dal ati a pheidio â chanolbwyntio ar yr hyn sy’n cael ei sgrifennu neu’r hyn sydd allan yna, a chanolbwyntio ar yr hyn y gallwn ni ganolbwyntio arno fel gan mai dyna’r rhan y gallwn ni ei rheoli.

“Dyna ’ngwaith i. Dw i wedi’i wneud e o’r blaen ac fe wna i barhau i’w wneud e gyda’r bois hyn.

“Roedd gyda ni griw o fois oedd yn grac ac yn siomedig heddiw.”

Ychwanegodd fod “rhaid i’r gwaith barhau” er mwyn gwyrdroi’r sefyllfa gan “nad oes ffordd arall”.