Everton 1–1 Abertawe
Disgynodd Abertawe i waelod yr Uwch Gynghrair gyda gêm gyfartal yn erbyn Everton ar Barc Goodison brynhawn Sadwrn.
Rhoddodd Gylfi Sigurdsson yr Elyrch ar y blaen o’r smotyn ychydig funudau cyn yr egwyl ond cipiodd Everton bwynt gyda pheniad hwyr Seamus Coleman.
Wedi deugain munud di sgôr fe gafodd Sigurdsson ei lorio yn y cwrt cosbi gan Phil Jagielka. Cododd y gŵr o Wlad yr Iâ ar ei draed cyn curo Maarten Steklenburg o’r smotyn.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser, ac yn wir, felly yr arhosodd hi tan ddau funud o ddiwedd y naw deg pan beniodd Coleman y bêl dros ben Lukasz Fabianski i gipio pwynt i’w dîm.
Mae gêm gyfartal yn Goodison yn ganlyniad digon parchus i dîm Bob Bradley ond nid yw’n ddigon i’w hatal rhag disgyn i waelod tabl yr Uwch Gynghrair gan i Sunderland ennill gartref yn erbyn Hull.
.
Everton
Tîm: Stekelenburg, Coleman, Jagielka (Valencia 83’), Williams, Baines, Gueye, McCarthy (Mirallas 72’), Lennon (Deulofeu 66’), Barkley, Bolasie, Lukaku
Gôl: Coleman 89’
Cardiau Melyn: Jagielka 40’, McCarthy 57’, Baines 63’, Barkley 75’, Mirallas 90’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Amat, Taylor, Fulton (Ki Sung-yueng 87’), Cork, Fer, Barrow (Dyer 81’), Sigurdsson, Routledge
Gôl: Sigurdsson [c.o.s.] 41’
Cardiau Melyn: Barrow 38’, Naughton 42’
.
Torf: 38,773