Chris Coleman (Llun:Joe Giddens/PA)
Mae pyndit blaenllaw wedi ymbil ar Gymdeithas Bêl-droed Lloegr i roi’r un rhyddid i’w rheolwr Gareth Southgate ag y mae Chris Coleman yn ei gael wrth y llyw yng Nghymru.

Cafodd Southgate ei benodi ar gyfer pedair gêm ola’r flwyddyn ar ôl i Sam Allardyce gael ei ddiswyddo tros helynt ariannol.

Cyn penodi Allardyce, roedd Roy Hodgson wedi ymddiswyddo ar ôl ymgyrch siomedig yn Ewro 2016.

Yn ôl John Barnes, mae angen i Loegr roi’r rhyddid i Southgate feithrin ymdeimlad o berthyn i garfan, oedd yn llwyddiannus i Gymru eleni wrth iddyn nhw gyrraedd rownd gynderfynol Ewro 2016 yn Ffrainc.

Dywedodd Barnes: “Cymerwch Gymru fel esiampl. Wnaeth Chris Coleman ddim dechrau’n arbennig o dda ond roedden nhw’n barod i gydnabod nad oedd ganddyn nhw ddewis ond aros yn driw i’r chwaraewyr ac i’r rheolwr.

“Ac oherwydd yr undod yna, yr ysbryd a’r gred, maen nhw wedi dod drwyddi. Nawr gyda Gareth, fe ddylai’r un peth ddigwydd yma.”