Livingston 0–3 Y Sentiau Newydd
Mae’r Seintiau Newydd trwodd i rownd gynderfynol Cwpan IRN-BRU ar ôl trechu Livingston yn y rownd go-gynderfynol yn Stadiwm Tony Macaroni brynhawn Sul.
Rhoddodd Robbie Parry’r tîm o Uwch Gynghrair Cymru ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Steve Saunders a Scott Quigley ddiogelu’r fuddugoliaeth yn yr ail hanner.
Cafodd y ddau dîm eu cyfnodau yn yr hanner awr cyntaf ond ni chafwyd llawer o gyfleoedd o flaen gôl. Cafodd Liam Buchanan gyfle i Livingston wedi hynny ond llusgodd ei ergyd heibio’r postyn.
Fe ddaeth y gôl agoriadol yn fuan wedyn wrth i ergyd Simon Spender wyro’n garedig i Parry ar ochr y cwrt cosbi a phasiodd yntau’r bêl yn gywir i’r gornel isaf.
Gwnaeth Paul Harrison arbediad da o beniad Raffaele De Vita i gadw’r Seintiau ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ac o fewn ychydig o funudau roedd yr ymwelwyr o Gymru wedi dyblu eu mantais.
Gôl digon flêr oedd honno, Livingston yn methu clirio’r bêl o’u cwrt chwech a’r Albanwr o amddiffynnwr yn nhîm y Seintiau, Saunders, yn sgorio.
Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel ugain munud o ddiwedd y naw deg diolch i Quigley a gôl orau’r gêm. Crymanodd yr eilydd y bêl yn gelfydd i’r gornel uchaf o gornel y cwrt cosbi i sicrhau lle ei dîm ym mhedwar olaf y gystadleuaeth.
Gwastraffodd Parry gyfle da i ychwanegu pedwaredd wedi hynny ond roedd tair yn ddigon i’r Seintiau.
.
Livingston
Tîm: Maley, Halkett, Crighton, Lithgow, Longbridge (Mullin 63’), De Vita, Miller, Pitman, Cadden (Carrick 67’), Buchanan (Byrne 76’), Mullen
Cerdyn Melyn: Crighton 57’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Saunders, Rawlinson, Pryce, Routledge, Edwards, Brbbel (Quigley 67’), Seargeant (Darlington 89’), Parry, Draper (Fletcher 71’)
Goliau: Parry 36’, Saunders 58’, Quigley 69’
Cardiau Melyn: Routledge 54’, Price 69’
.
Torf: 733