Mae Alviro Petersen, capten tîm criced Morgannwg yn 2011, wedi cael ei gyhuddo gan Fwrdd Criced De Affrica o gynllwynio i drefnu canlyniadau gemau.

Cafodd Petersen ei ddenu i’r sir bum mlynedd yn ôl yn dilyn cyrch recriwtio ‘byd-eang’ i ddod o hyd i gapten newydd.

Arweiniodd yr helynt at ymddiswyddiad y prif hyfforddwr, Matthew Maynard, y capten Jamie Dalrymple, y Llywydd Peter Walker a nifer o swyddogion eraill y clwb.

Dydy’r cyhuddiadau yn erbyn Petersen ddim yn ymwneud â’i gyfnod fel capten ar dîm Morgannwg, ond yn hytrach â chystadleuaeth ugain pelawd y Ram Slam yn 2015.

Mae Petersen wedi’i wahardd am y tro, ac mae ganddo 14 diwrnod i ymateb i’r cyhuddiadau.

Mae pump o chwaraewyr eraill – Gulam Bodi, Jean Symes, Pumelela Matshikwe, Ethy Mbhalati a Thami Tsolekile – eisoes wedi cael eu gwahardd yn dilyn ymchwiliad.

Roedd Petersen yn chwarae i Swydd Gaerhirfryn y llynedd, ond fe gyhoeddodd ers diwedd y tymor na fyddai’n dychwelyd y tymor nesaf am “resymau teuluol”.