Mae Casnewydd wedi llwyddo i guro Carlisle ar Rodney Parade – er bod eu cefnwr de, Paul Bignot, wedi’i wahardd am chwe gêm.

Fe sgoriodd Sheehan wedi 2 funud o chwarae i roi’r tim cartre’ ar y blaen, ac fe fu’n ddau hanner hir cyn i Healey ddod o hyd i gefn y rhwyd ar ol 72 munud i selio’r fuddugoliaeth.

Fe gafodd Luke Joyce, Danny Grainger a Tom Miller ergydion am y gol ar ran Carlisle, ond fe gawson nhw eu blocio gan amddiffyn soled Casnewydd. Fe ddaeth Jennison Myrie-Williams (Casnewydd) o fewn trwch blewyn at sgorio yn y trydydd munud o amser ychwanegol (90+3).

Dau i un oedd y sgor o ran cardiau melyn – y cynta’n dod wedi Luke Joyce (Carlisle) ar 58 munud, un wedyn i Darren Jones (Casnewydd) ar ol 68 munud, a’r ola’ i Josh O’Hanlon (Casnewydd) wedi 69 munud.

Roedd Josh O’Hanlon yn gwneud ei ymddangosiad cynta’ yn nhim cynta’ Casnewydd, ar ol arwyddo yn gynharach yr wythnos yma.