Scarlets 44–21 Caerfaddon
Noson i’r blaenwyr oedd hi wrth i’r Scarlets frwydro nôl i drechu Caerfaddon yn y Cwpan Eingl-Gymreig nos Wener.
Noson i’w anghofio oedd hi i Rhys Priestland wrth i’r maswr ddychwelyd i Barc y Scarlets i wynebu ei hen dîm.
Roedd y Scarlets ym mhell ar ei hôl hi ar yr egwyl wedi i geisiau Max Lahiff (2) a Jeff Williams ynghyd â thri trosiad Priestland roi mantais o 21 pwynt i 9 i’r ymwelwyr.
Ond yn ôl y daeth Bois y Sosban yn yr ail hanner gyda’r blaenasgellwr, Josh Macleod, yn croesi am y cais cyntaf.
Aeth y tîm cartref ar y blaen wedyn gyda dau gais mewn pum munud toc wedi’r awr gan y prop a’r capten, Emyr Phillips.
Gyda Priestland yn y gell gosb fe ymunodd Jack Condy yn yr hwyr ym mhum munud olaf yr wyth deg, gyda dau gais gan y blaenasgellwr yn troi’r fuddugoliaeth yn un gyfforddus.
.
Scarlets
Ceisiau: Josh Macleod 53’, Emyr Phillips 64’, 69’, Jack Condy 76’, 79’
Trosiadau: Dan Jones 53’, 65’, 69’, 76’, Billy McBryde 80’
Ciciau Cosb: DanJones 6’, 21’, 33’
.
Caerfaddon
Ceisiau: Max Lahiff 25’, 30’, Jeff Williams 35’
Trosiadau: Rhys Priestland 26’, 31’, 36’
Cerdyn Melyn: Rhys Priestland 68’