Abertawe 1–3 Man U     
                                                                   

Sgoriodd Zlatan Ibrahimovic ddwy gôl wrth i Man U drechu Abertawe yn yr Uwch Gynghrair ar y Liberty brynhawn Sul.

Roedd yr ymwelwyr dair gôl ar y blaen erbyn hanner amser ac aethant ymlaen i ennill y gêm gyfforddus er i’r Elyrch dynnu un yn ôl yn yr ail hanner.

Chwarter awr yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Paul Pogba’r ymwelwyr ar y blaen. Wnaeth peniad Mike van der Hoorn ddim clirio’r bêl yn ddigon pell o gwrt cosbi Abertawe a gorffennodd Pogba’n gelfydd gyda foli o ugain llath.

O safle tebyg iawn y dyblodd Ibrahimovic y sgôr chwe munud yn ddiweddarach, yn curo Lukasz Fabianski o du allan i’r cwrt cosbi gydag ergyd isel.

Sgoriodd Zlatan ei ail ef a thrydedd ei dîm toc wedi hanner awr o chwarae. Gôl uniongyrchol iawn a oedd hon, cic hir o’r cef gan David de Gea, Ibrahimovic a Wayne Rooney yn cyfuno a’r gŵr o Sweden yn sgorio. Tair i ddim ar yr egwyl a mynydd i’w ddringo i’r Elyrch.

Gwnaeth Bob Bradley ddau newid ar hanner amser gyda Modou Barrow a Jefferson Montero yn dod i’r cae, ac roedd ei dîm yn well ar ôl troi.

Rhoddodd peniad van der Hoorn o gic rydd Gylfi Sigurdsson ugain munud o’r diwedd lygedyn o obaith iddynt ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i Man U ddal eu gafael ar y tri phwynt.

Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe yn ail o waelod y tabl gyda dim ond gwahaniaeth goliau yn eu gwahanu hwy a Sunderland ar y gwaelod.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, van der Hoorn, Mawson, Kingsley, Routledge (Barrow 45’), Britton (Fer 70’), Ki Sung-yueng, Sigurdsson, Baston, Llorente (Montero 45’)

Gôl: van der Hoorn 69’

.

Man U

Tîm: de Gea, Young, Jones, Rojo, Darmian, Carrick, Fellaini, Mata (Lingard 81’), Pogba (Fosu-Mensah 90’), Rooney (Schneiderlin 89’), Ibrahimovic

Goliau: Pogba 15’, Ibrahimovic 21’, 33’

Cardiau Melyn: Ibrahimovic 76’, Mata 80’

.

Torf: 20,938