Mike van der Hoorn
Mae amddiffynnwr Abertawe, Mike van der Hoorn wedi rhybuddio ei gyd-chwaraewyr am berygl Zlatan Ibrahimovic.

Dim ond un gôl y mae’r ymosodwr o Sweden wedi’i sgorio yn ei 11 gêm diwethaf i Man U ar ôl sgorio pedair mewn pedair gêm ar ddechrau’r tymor, ac mae’n ddeufis erbyn hyn ers iddo sgorio yn yr Uwch Gynghrair.

Daeth ei gôl ddiwethaf ar 10 Medi – chwe gêm yn ôl.

Ond fe allai hynny ei ysbrydoli wrth i Man U deithio i Stadiwm Liberty y prynhawn yma.

Mae van der Hoorn yn llwyr ymwybodol o’i allu o flaen y gôl yn dilyn sawl gêm boenus yn y gorffennol.

Collodd van der Hoorn ac Ajax o 3-1 wrth i Ibrahimovic sgorio gôl a ddeilliodd o hanner cyfle i Paris St Germain mewn gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr ddwy flynedd yn ôl.

Dywedodd van der Hoorn: “Wnaethon ni chwarae’n eitha da ac yna’n sydyn, fe sgoriodd e yn y gornel bellaf.

“Ro’n i’n sefyll yno’n meddwl ‘sut mae e’n gallu gwneud hynny?’

“Roedd yr hyfforddwr yn fodlon ar fy mherfformiad gan i fi ennill pob brwydr. Ond os ydych chi y tu ôl iddo fe mewn un frwydr, yna mae e’n ei gorffen hi’n dda.

“Efallai nad yw e’n tanio wrth orffen ar hyn o bryd, ond weithiau dych chi ddim yn ei weld e am y gêm gyfan ac yn sydyn mae e yno i’w gorffen hi.

“Fe yw’r chwaraewr cryfa’ yn yr Uwch Gynghrair, dw i’n meddwl ac ar ben hynny, mae e’n dechnegol dda.”

Brwydr yr Iseldirwyr

Os nad oes modd darogan symudiad nesaf Ibrahimovic, mae van der Hoorn yn gwybod yn iawn beth sy’n ei ddisgwyl wrth herio dau o’i gydwladwyr, Daley Blind a Memphis Depay.

Roedd Blind yn un o gyd-amddiffynwyr Ajax, tra bod Depay yn un o’i gyd-chwaraewyr yn nhîm dan 21 yr Iseldiroedd.

Ond dydy Depay ddim wedi dechrau gêm yn yr Uwch Gynghrair eto y tymor hwn. Fe gostiodd £25 miliwn yn 2015.

Mae hynny’n destun syndod i Mike van der Hoorn.

“Mae e’r math o chwaraewyr ry’ch chi’n mwynhau ei wylio. Fel Zlatan, mae e’n gallu creu rhywbeth mewn eiliad a thorri drwodd i sgorio.

“Os ydych chi’n cael tymor gwael ond bod gyda chi meddylfryd fel fe, bydd pobol yn cadw llygad arnoch chi o hyd.”

Profiad newydd yn y gwaelodion

Mae Abertawe’n dechrau’r gêm yn bedwerydd ar bymtheg yn y tabl, ond yn gyfartal ar bwyntiau gyda Sunderland sydd ar y gwaelod – dim ond gwahaniaeth goliau sy’n eu gwahanu.

Tra bod yr Iseldirwr yn gyfarwydd â chael llwyddiant yn Ajax, mae’n cyfaddef fod y profiad o fod tua gwaelod y tabl yn brofiad newydd iddo.

“Fe wnes i ennill un tlws gydag Ajax ac un tlws Super Cup.

“Felly mae hwn yn brofiad newydd i fi, ac i lawer o chwaraewyr eraill yma hefyd.

“Rhaid i chi newid eich meddylfryd a gweld yr unfed safle ar bymtheg, y tu allan i’r safleoedd disgyn, fel tlws.

“Dyw’r tymor ddim ar ben eto a rhaid i chi barhau i chwarae’n rhydd gan gredu y byddwch chi’n cael canlyniadau da.”

Y timau

Mae asgellwr Abertawe, Jefferson Montero yn holliach ar ôl anafu croth ei goes, ac mae’r rheolwr Bob Bradley wedi awgrymu y bydd yn dechrau gêm am y tro cyntaf yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Mae Kyle Naughton wedi gwella ar ôl salwch oedd wedi ei orfodi i adael y cae yn Stoke nos Lun.

Mae chwaraewr canol cae Man U, Ander Herrera wedi’i wahardd, tra bod amheuon am ffitrwydd un o’i bartneriaid yng nghanol y cae, Paul Pogba sydd wedi anafu ei forddwyd.

Abertawe v Man U – yr ystadegau

Mae’r llyfrau hanes o blaid Abertawe ers iddyn nhw fod yn yr Uwch Gynghrair, ar ôl iddyn nhw ennill tair o’u pedair gêm diwethaf yn erbyn Man U.

Ond Man U oedd yn fuddugol yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn ei gilydd ym mis Ionawr.

Mae’r pedair gêm diwethaf wedi gorffen gyda’r sgôr yn 2-1 i’r naill dîm neu’r llall.

Dyw Man U ddim wedi ennill eu pedair gêm diwethaf, a dim ond un fuddugoliaeth gawson nhw yn eu saith gêm diwethaf. Dim ond un gôl maen nhw wedi’i sgorio mewn pedair gêm.

Ond un peth mawr sydd o blaid Man U ar hyn o bryd, sef perfformiadau diweddar yr Elyrch, sydd heb ennill yr un o’u naw gêm diwethaf yn yr Uwch Gynghrair.

Dyw’r Elyrch ddim chwaith wedi ennill yr un gêm gartref y tymor hwn – eu dechrau gwaethaf erioed yn yr Uwch Gynghrair.