Fe gurodd Iwerddon Seland Newydd neithiwr am y tro cyntaf erioed.

Cafodd y gêm ei chynnal yn Chicago yn yr Unol Daleithiau, ac Iwerddon oedd yn fuddugol o 40-29.

Cyn neithiwr, roedd y Crysau Duon wedi ennill 18 gêm o’r bron, a doedd Iwerddon ddim wedi eu curo unwaith yn eu 28 gêm yn erbyn ei gilydd – a hynny dros gyfnod o 111 o flynyddoedd.

Roedd yr achlysur hefyd yn gyfle i gofio cyn-wythwr y wlad a hyfforddwr Munster, Anthony Foley, fu farw’n ddiweddar yn 42 oed.

Wrth i Iwerddon baratoi i wynebu dawns yr Haka, safodd y chwaraewyr gan greu siâp ‘8’ ar y cae.

Enillodd Foley 63 o gapiau dros ei wlad, ac roedd yn aelod allweddol o dîm Munster, gan ennill Cwpan Heineken Ewrop ddwywaith.

Sgoriodd Iwerddon bum cais ar eu ffordd i’r fuddugoliaeth.

Dywedodd y capten Rory Best fod emosiwn yr achlysur wedi sbarduno’r tîm.

“Rhaid i chi gymryd eiliad bob tro ry’ch chi’n creu hanes. Mae’n eitha anodd eistedd yma a siarad am beth sy’n enfawr i ni.

“Mae’n arwyddo or parch tuag at y Crysau Duon fod eu curo nhw’n golygu cymaint i ni oherwydd maen nhw’n dîm â chymaint o ansawdd ac maen nhw wedi dangos hynny.

“Fe fu lot o dimau gwych a chwaraewyr gwych sydd wedi dod yn agos ond sydd heb allu ei gorffen hi.

“Pan ddaethon nhw o fewn pedwar pwynt i ni, roedd gyda ni’r synnwyr i barhau i ymosod arnyn nhw, ac roedd hynny’n wych.

“Ry’n ni’n griw agos, yn cael ein hyfforddi’n dda ac roedd hynny’n amlwg heddiw.”

Fe fydd y ddwy wlad yn dod ben-ben â’i gilydd unwaith eto – yn Nulyn y tro nesaf – ar 19 Tachwedd.

Dywedodd hyfforddwr Seland Newydd, Steve Hansen fod rhaid i’w dîm anghofio’n gyflym am y canlyniad.

“Mae’n anochel ei fod yn mynd i ddigwydd, dyna chwaraeon i chi.

“Rhaid i ni sicrhau nad yw’r golled yn wastraff, rhaid i ni sicrhau ei bod yn mynd â ni i rywle lle gallwn ni wella.

“Roedd yn mynd i ddigwydd yn hwyr neu’n hwyrach. Roedden nhw’n haeddu ennill yn 2013, ac roedden nhw’n ei haeddu hi yma.”

Daeth Iwerddon o fewn dau bwynt i’r fuddugoliaeth yn Nulyn dair blynedd yn ôl, wrth iddyn nhw golli yn y pen draw o 24-22.