North Ferriby 0–0 Wrecsam
Di sgôr oedd hi wrth i Wrecsam ymweld â Grange Lane i herio North Ferriby yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.
Gerry McDonagh a gafodd gyfle gorau Wrecsam yn yr hanner cyntaf ond methodd o chwe llath.
Daeth Callum Powell a John Rooney yn agos wedi’r egwyl hefyd ond aros yn ddi sgôr a wnaeth hi.
Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol, naw pwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle wedi deunaw gêm.
.
North Ferriby
Tîm: Watson, Skelton, Topliss, Fallowfield (Armstrong 90’), Middleton, Hare, Brogan, Russell, Wootton (Robinson 71’), Clarke, Thompson (Kendall 71’)
.
Wrecsam
Tîm: Jalal (Dunn 22’), Edwards, Evans, Rooney, Bencherif, Smith (Barry 57’), Tilt, Carrington, Powell, Harrad, McDonagh (Bailey-Nichols 66’)
Cerdyn Melyn: Powell 80’
.
Torf: 528