Stoke 3–1 Abertawe             
                                                             

Rheolodd Joe Allen ganol cae a rhwydodd Wilfred Bony ddwy waith wrth i Stoke guro Abertawe yn Stadiwm Bet 365 nos Lun.

Mae’r Elyrch yn aros tua gwaelodion tabl yr Uwch Gynghrair ar ôl colli o dair gôl i un yn erbyn tîm Mark Hughes.

Cafodd Stoke y dechrau perffaith wrth i ddau gyn chwaraewr Abertawe gyfuno i roi’r tîm cartref ar y blaen yn y trydydd munud. Methodd Neil Taylor â chlirio cic gornel yn ddigon pell ac anelodd Allen y bêl yn ôl i gyfeiriad y cwrt chwech lle’r oedd Bony’n aros i’w gwyro i gefn y rhwyd.

Pum munud yn unig yr arhosodd hi felly cyn i Wayne Routledge unioni pethau i’r Elyrch gyda pheniad da o groesiad cywir Gylfi Sigurdsson.

Cafodd y Cymry ddigon o’r tir a’r meddiant o hynny tan hanner amser hefyd ond Stoke a ddaeth agosaf at sgorio gan daro’r postyn dair gwaith!

Tarodd Charlie Adam y pren ar ddau achlysur wrth geisio’i lwc o ugain llath cyn i Marko Arnautovic daro’r postyn hefyd yn dilyn pas dreiddgar hyfryd gan Allen.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ddeg munud wedi’r ail ddechrau wrth i Alfie Mawson droi’r bêl i’w rwyd ei hun yn dilyn sgiliau slic ac ergyd Ramadan Sobhi yn y cwrt cosbi.

Dyblodd Stoke eu mantais ddeunaw munud o ddiwedd y naw deg wrth i Allen a Bony gyfuno eto i gosbi eu cyn gyflogwyr. Gwnaeth Lukasz Fabianski yn dda i atal cynnig gwreiddiol Allen ond pan wyrodd y bêl yn ôl at y chwaraewr canol cae fe lwyddodd i’w chyfeirio at Bony i roi gôl ar blât i’r blaenwr.

Tarodd Borja Baston y trawst i Abertawe wedi hynny ac roedd Routledge yn anffodus braidd mai dim ond cic rydd a gafodd yn dilyn trosedd Erik Pieters arno, nid cic o’r smotyn.

Ar y cyfan, amddiffynnodd Stoke y munudau olaf yn gymharol gyfforddus wrth i Abertawe aros yn safleoedd y gwymp gyda dim ond pum pwynt o’u deg gêm gyntaf.

.

Stoke

Tîm: Grant, Bardsley, Shawcross, Martins Indi, Pieters, Whelan, Adam, Shaqiri (Sobhi 26’), Allen, Arnautovic (Crouch 86’), Bony (Walters 79’)

Gôl: Routledge 8’

Cardiau Melyn: Arnautovic 76’, Pieters 83’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton (Rangel 41’), van der Hoorn, Mawson, Taylor, Fer, Ki Sung-yueng (Cork 87’), Barrow (Baston 62’), Sigurdsson, Routledge, Llorente

Goliau: Bony 3’, 73’, Mawson [g.e.h.] 55’

.

Torf: 26,602