Gareth Bale yn dathlu (Llun: Manu Fernandez/AP)
Daeth cadarnhad heddiw fod seren tîm pêl-droed Cymru wedi arwyddo cytundeb newydd tymor hir gyda’i glwb Real Madrid.
Mae’r cytundeb newydd yn golygu y bydd Gareth Bale yn parhau gyda’r clwb yn Sbaen tan 30 Mehefin 2022, ychydig cyn iddo droi’n 33 mlwydd oed.
“Dw i’n teimlo’n fwy cartrefol yma bob blwyddyn. Mae fy Sbaeneg yn gwella ac mae fy nheulu yn hapus yma,” meddai Gareth Bale.
“Yn amlwg yn y dyfodol, dydw i ddim yn gwybod pa bryd y byddaf i’n ymddeol, ond rwy’n hapus iawn ar hyn o bryd ac am y chwe blynedd nesaf, dydw i ddim yn edrych y tu hwnt i hynna i ddweud y gwir.”
Symudodd y Cymro i Sbaen o Spurs yn 2013 ar gytundeb chwe blynedd am £85.3 miliwn.
Roedd amheuaeth y tro hwn fod clybiau gan gynnwys Manchester United wedi ystyried ei ddenu.