Dydy Abertawe ddim yn mynd i newid eu cynlluniau ar gyfer y Cymro sydd ar dân yn yr Uwch Gynghrair
Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley wedi dweud ei fod yn barod am nos Lun ystrydebol o wlyb yn Stoke nos yfory.
Mae’r Elyrch yn dal i geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, ac fe fydd yr Americanwr wrth y llyw am y trydydd tro yn dilyn diswyddiad Francesco Guidolin ar ôl dechrau siomedig i’r tymor.
Fe fydd Bradley â’i dim yn dod yn wyneb yn wyneb â dau chwaraewr cyfarwydd – chwaraewr canol cae Cymru Joe Allen a’r ymosodwr Wilfried Bony – y ddau yn ffefrynnau ar y Liberty yn y gorffennol.
Dywedodd Bradley ar drothwy’r gêm: “O safbwynt y dihareb enwog [o fynd i Stoke ar nos Lun wlyb], mae’n rhaid i chi fynd yno gan ddisgwyl y bydd hi’n oer ac yn wyntog. Dydy’r pethau hynny ddim wedi newid, dw i ddim yn meddwl.
“Ond ar yr un pryd, mae gan dimau Mark Hughes ffordd bendant o fynd o gwmpas eu pethau ac felly, o safbwynt y pêl-droed, mae ganddyn nhw chwaraewyr dawnus a gyda’u system, mae chwaraewyr yn gallu symud a darganfod cyfleoedd.
“Felly i ni, rhaid i chi fynd yno gan ddeall y gallai hi fod yn oer ac yn wyntog ond rhaid i ni fod yn barod am yr heriau pêl-droed mae tîm Stoke yn eu taflu atoch chi.”
Yn ôl Bradley, mae bod yn barod yn golygu bod yn anodd eu torri i lawr wrth ymosod.
“Rydych chi am feddu ar y rhinweddau hynny ond hefyd rhaid i chi sicrhau bod rhannau eraill i’r tîm – y ffordd y mae’r bêl yn symud, syniadau wrth ymosod, creu mantais a symud i mewn i’r cwrt cosbi.”
Joe Allen
Mae Joe Allen wedi sgorio pedair gôl mewn pedair gêm i Stoke y tymor hwn ers i’w gyd-Gymro Mark Hughes ei ddewis fel chwaraewr canol cae mwy ymosodol.
Yn y safle hwnnw, mae’r Cymro wedi cael ail wynt ers iddo fynd ar fenthyg i ganolbarth Lloegr o Lerpwl.
Ond mae Bradley yn mynnu na fydd eu cynlluniau’n canolbwyntio’n ormodol ar atal y Cymro yng nghanol y cae.
Dywedodd yr Americanwr wrth Golwg360: “Dydyn ni ddim yn mynd i newid ein cynlluniau o gwmpas Joe Allen. Bod yn ymwybodol ohono fe yw’r peth pwysig.
“Mae Joe yn chwaraewr galluog ac felly yn ei rôl e, dyw e ddim yn chwaraewr a fydd yn hyrddio heibio pobol, ond mae e’n beniog ac mae e’n darganfod safleoedd da ar y cae.
“Mae’n gweld y bàs gywir ac felly rhaid i ni ddeall sut mae Shaqiri a Joe yn symud i greu bwlch rhwng y llinellau a sut allwn ni atal y bêl rhag eu cyrraedd nhw.
“Rhaid i ni eu cau nhw i lawr a dileu’r ffenestri maen nhw am fynd drwyddyn nhw.
“Rhaid i ni orfodi Joe i chwarae’r bêl ar draws y cae ac am yn ôl, a pheidio â rhoi’r cyfle iddo fe ddarganfod y chwaraewyr ymosodol.”
Wilfried Bony
Un arall y bydd gan Bradley lygad barcud arno fe yw Wilfried Bony, sydd heb sgorio yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.
Mae Bradley yn ymwybodol y bydd herio’i hen glwb yn ysgogiad ychwanegol i chwaraewr rhyngwladol y Côte d’Ivoire.
“Fel rheolwr, rydych chi bob amser yn meddwl am chwaraewyr sy’n dychwelyd i’w hen glybiau gyda phwynt i’w brofi.
“Ond dydy hynny ddim yn newid eich agwedd chi. Ond ein gwaith ni yw bod yn barod am yr her pan fo gan chwaraewr rywbeth i’w brofi.
“Rhaid i ni sicrhau na fydd hyn yn ffactor pan ddaw hi’n amser chwarae’r gêm.”