Cafodd Aaron Ramsey a Joe Allen eu cynnwys, ond dim lle i Gareth Bale
Mae Aaron Ramsey a Joe Allen wedi cael eu henwi ymhlith yr 11 chwaraewr gorau yn Ewro 2016 mewn adroddiad technegol gan UEFA.

Ond doedd dim lle i Gareth Bale.

Mae’r adroddiad yn cael ei lunio ar ôl pob cystadleuaeth rhyngwladol, ac yn canolbwyntio ar rai o nodweddion mwyaf technegol y chwaraewyr – o’u cyflymdra i gywirdeb eu pasio.

Cafodd ei gynnwys ei ddatgelu yn ystod cynhadledd i reolwyr ym Mharis, a rheolwr Cymru Chris Coleman yn eu plith.

Roedd Coleman ymhlith y rheolwr y gofynnodd UEFA am eu safbwyntiau yn ystod y broses o lunio’r adroddiad.

Ymhlith yr arbenigwyr eraill sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad diweddaraf mae cyn-reolwr Man U Syr Alex Ferguson.

Sgiliau

Yn ôl yr adroddiad, gall Allen “reoli cyflymdra a datblygu symudiadau ymosodol” tra bod Ramsey yn “darllen y gêm yn wych” ac yn “amseru rhediadau” wrth greu a sgorio goliau.

Dywed yr adroddiad fod Ramsey yn “chwarae 10 neu 11% o’r gêm ar gyflymdra uchel” a’i fod e wedi gwibio rhwng 45 a 63 gwaith ym mhob gêm, ac eithrio’r gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon, pan wibiodd e 34 gwaith.

Roedd Allen a Ramsey yn allweddol wrth i Gymru gyrraedd rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth, ond doedd Ramsey ddim ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Portiwgal ar ôl cael ei wahardd.

Cymru wedi “creu argraff”

Wrth drafod llwyddiant Cymru yn Ewro 2016, dywedodd Ferguson eu bod nhw wedi “helpu i greu’r twrnament” ac wedi “creu argraff wych”.

Mae’r adroddiad yn nodi mai’r amddiffynnwr canol James Chester basiodd y bêl y nifer fwyaf o weithiau (277), a bod Ramsey wedi pasio’r bêl 212 o weithiau (a 40 o weithiau i Gareth Bale).

Ymhlith yr elfennau eraill a gafodd eu canmol roedd gallu Gareth Bale i daro ciciau rhydd – fe sgoriodd Bale â chic rydd yn erbyn Lloegr yn eu gêm grŵp.

Gwnaeth yr adroddiad hefyd ganmol:

  • Defnydd Cymru o systemau 3-4-3 a 5-3-2
  • Cydweithio rhwng Ramsey a Bale
  • Allen a Joe Ledley yn amddiffyn yng nghanol y cae
  • Chester a’r capten Ashley Williams yn pasio o ganol yr amddiffyn i ganol y cae

Ar y cyfan, cafodd Cymru eu canmol am fod yn “uned drefnus a gafodd ei hadeiladu ar sail amddiffyn cadarn, ymdrech ac ysbryd tîm”.

Tîm Ewro 2016: Rui Patricio (Portiwgal); Joshua Kimmich (Yr Almaen), Jerome Boateng (Yr Almaen), Pepe (Portiwgal), Raphael Guerreiro (Portiwgal); Toni Kroos (Yr Almaen), Joe Allen (Cymru); Antoine Griezmann (Ffrainc), Aaron Ramsey (Cymru), Dimitri Payet (Ffrainc); Cristiano Ronaldo (Portiwgal).