Jodie Grinham a John Stubbs yn dathlu medal arian
Mae Jodie Grinham, sy’n hanu o Geredigion, wedi ennill medal arian yn y saethyddiaeth yng Ngemau Paralympaidd Rio.

Hi a John Stubbs ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth tîm cymysg cyfansawdd.

Cawson nhw eu curo i’r fedal aur gan Zhou Jiamin ac Ai Xinliang o China o 151 i 143.

Daeth Grinham i’r byd saethyddiaeth yn 2008, a chafodd ei dewis yng ngharfan Prydain yn 2014 ar ôl bod yn aelod o Raglen Datblygu Talent Cenedlaethol Prydain.