Mae Hal Robson-Kanu gam yn nes at ddod o hyd i glwb newydd wrth iddo gael prawf meddygol gyda West Brom, yn ôl adroddiadau.

Does gan Robson-Kanu, oedd yn un o sêr Cymru yn ystod Ewro 2016, ddim clwb ar ôl penderfynu gadael Reading ddiwedd y tymor diwethaf.

Roedd e wedi cael ei gysylltu â nifer o glybiau yn Lloegr a thramor.

Ond mae’n ymddangos ei fod yn agos at gytuno ar delerau gyda West Brom ar ôl cael caniatâd i adael gwesty carfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Moldofa nos Lun.

Roedd rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi awgrymu’r wythnos diwethaf ei fod yn barod i ollwng Robson-Kanu o’r garfan pe na bai’n dod o hyd i glwb newydd.

Mae’r trosglwyddiad – pe bai’n cael ei gwblhau – yn golygu y bydd yn ymuno â’i gydwladwr, Tony Pulis, sy’n rheolwr ar West Brom.