Francesco Guidolin (Llun: Roberto Vicario/CC3.0)
Mae rheolwr Abertawe, Francesco Guidolin yn gobeithio efelychu ei orchestion yng Nghwpan yr Eidal yn 1990au, trwy danio’r Elyrch i lwyddiant yng Nghwpan yr EFL nos Fawrth.

Mae Clwb Dinas Abertawe yn chwarae i ffwrdd yn Peterborough yn ail rownd Cwpan yr EFL.

Fe brofodd Francesco Guidolin lwyddiant ysgubol pan arweiniodd Vicenza i lwyddiant yn y Coppa Italia ym 1997 a dyma oedd tlws cyntaf erioed y clwb.

Fel yr eglurodd Francesco Guidolin: “Fe wnaethom ennill y Coppa Italia ac, i dîm bach, mae hynny’n wych.”

“Dydi o ddim ‘run fath a Chaerlŷr yn ennill yr Uwch Gynghrair ond, ar ôl Vicenza,   ‘does yna ‘run tîm bach wedi ennill y Coppa Italia.”

“Mae’r timau sydd wedi ennill wastad o lefydd fel Milan, Napoli, Juventus, Inter Milan neu Roma.”

Neil Taylor yn cychwyn i’r Elyrch

Mae Guidolin wedi gwneud newidiadau i’w garfan a fydd yn wynebu Peterborough, gydag amddiffynnwr Cymru Neil Taylor yn dechrau ar ôl seibiant ers Pencampwriaeth Ewrop.

Mae Francesco Guidolin yn hyderus o lwyddiant yn y cwpan y tymor hwn, heb fod hynny ar draul llwyddiant yn yr  Uwch Gynghrair.

Ychwanegodd: “Mae gennym garfan ddigon cryf, os nad ydym yn cael anafiadau. Gallwn ganolbwyntio ar yr Uwch Gynghrair a’r Gwpan hefyd. “