Athletwyr Tîm GB yn seremoni cau y Gemau Olympaidd yn Rio (Llun: Martin Rickett/PA Wire)
Mae’r Cymry wedi “rhagori ar bob disgwyliad” yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro eleni, yn ôl Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru.

Cipiodd athletwyr o Gymru gyfanswm o ddeg medal yn ystod y Gemau Olympaidd, gyda phedwar ohonynt yn fedalau aur.

Dyma’r perfformiad gorau erioed i athletwyr o Gymru, wrth iddyn nhw guro’r record a osodwyd yn Llundain o saith medal.

Ymhlith yr athletwyr o Gymru a enillodd fedalau aur mae Elinor Baker gyda’r seiclo, Hannah Mills gyda’r hwylio, Jade Jones gyda’r taekwondo ac Owain Doull gyda’r seiclo.

Mewn seremoni liwgar yn Rio neithiwr i nodi diwedd y Gemau, cafodd y faner Olympaidd ei throsglwyddo i Japan a fydd yn cynnal y Gemau yn Tokyo yn 2020.

Tîm GB yn sicrhau 67 o fedalau

Ar ddiwedd y cystadlu, fe wnaeth Tîm GB sicrhau cyfanswm o 67 o fedalau a gorffen yn yr ail safle am y tro cyntaf mewn mwy na chanrif.

Dyma hefyd y tro cyntaf i dîm gynyddu nifer eu medalau ar ôl cynnal y Gemau eu hunain.

Mae ’na alwadau nawr am anrhydeddu’r athletwyr buddugol yn Rhestr Anrhydeddau’r Frenhines.

 ‘Aros yn y cof am byth’

Fe wnaeth Becky James o’r Fenni gipio dwy fedal arian gyda’r seiclo, Jazz Carlin o Abertawe yn cipio dwy fedal arian yn y nofio a Victoria Thornley o Wrecsam yn ennill medal arian yn y rhwyfo.

Daeth llwyddiant hefyd yn y rygbi saith bob ochr gyda James Davies a Sam Cross o Gymru yn sicrhau medal arian i’r tîm.

“Cyn y gemau roeddem yn gwybod fod yr athletwyr wedi paratoi yn dda a’n bod yn anfon casgliad o athletwyr o safon byd eang allai adael dylanwad mawr ar Rio,” meddai Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell.

“Maen nhw wedi rhagori ar bob disgwyliad a rhoi inni rhai o brofiadau chwaraeon fydd yn aros yn y cof am byth,” meddai wedyn.

Ac mae athletwyr Cymru bellach yn edrych ymlaen at eu cystadlaethau nesaf yn Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia ym mis Ebrill 2018.