Mae Abertawe wedi torri eu record am arwyddo chwaraewr wrth dalu £15.5 miliwn am yr ymosodwr Sbaeneg Borja Baston o Atletico Madrid.
Y record flaenorol oedd £12miliwn a wariwyd gan Abertawe i arwyddo Wilfried o Vitesse Arnhem yn 2013.
Meddai Clwb Pêl-droed Abertawe y bydd y chwaraewr 23 mlwydd oed yn gwisgo’r crys rhif 10 ac mae wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd. Sgoriodd 16 o goliau mewn 36 ymddangosiad yn y LaLiga’r tymor diwethaf.
Borja Baston yw’r unfed chwaraewr ar bymtheg o Sbaen i chwarae i’r Elyrch a fo yw’r pumed chwaraewr i Abertawe arwyddo dros yr haf.
Gwerthodd yr Elyrch Andre Ayew a chapten Cymru Ashley Williams i West Ham ac Everton yr wythnos hon am dros £32 miliwn.