Bydd Morgannwg yn herio Swydd Efrog yn y T20 Blast nos Iau, gan wybod y byddai buddugoliaeth yn sicrhau eu lle yn Niwrnod y Ffeinals yn Edgbaston ymhen naw diwrnod.

Mae Swydd Nottingham, Swydd Northampton a Swydd Durham eisoes wedi cyrraedd y pedwar olaf.

Ond pe bai Morgannwg yn colli, byddai eu tymor ar ben, i bob pwrpas, yn dilyn ymgyrchoedd siomedig yn y Bencampwriaeth a chwpan 50 pelawd Royal London.

Mae’r batiwr llaw chwith Colin Ingram yn ôl yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y gêm, wrth iddo ganolbwyntio ar y gemau undydd tan ddiwedd y tymor oherwydd anaf i’w ben-glin.

Ingram sydd wedi taro’r nifer fwyaf o ergydion am chwech (29) yn y gystadleuaeth mor belled.

Hefyd yn ôl yn y garfan ar ôl cyfnod o orffwys mae’r bowlwyr cyflym Michael Hogan, Graham Wagg a Craig Meschede, a’r troellwr llaw chwith profiadol Dean Cosker.

Dydy Morgannwg ddim wedi cyrraedd Diwrnod y Ffeinals ers 2004, ac fe fydd rhaid iddyn nhw guro tîm un o’u cyn-chwaraewyr, Jason Gillespie er mwyn gwneud hynny.

Bydd yr ymwelwyr heb rai o’u sêr, gan gynnwys Joe Root, sydd yng ngharfan Lloegr sy’n herio Pacistan mewn gêm brawf ar hyn o bryd.

Ond un chwaraewr rhyngwladol sydd wedi’i gynnwys yw’r troellwr coes Adil Rashid.

Ar drothwy’r ornest, dywedodd Colin Ingram: “Mae’n amlwg yn gêm anferth i ni ac fe fydd yn wych cael bod o flaen torf gartref.

“Mae’n achlysur cyffrous ac rwy wir yn edrych ymlaen ato.”

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), M Wallace, D Lloyd, C Ingram, A Donald, W Bragg, G Wagg, C Meschede, N Selman, A Salter, D Cosker, T van der Gugten, S Tait, O Morgan, M Hogan

Carfan Swydd Efrog: T Bresnan, K Carver, R Gibson, A Hodd, J Leaning, A Lees (capten), A Lyth, S Patterson, L Plunkett, A Rafiq, A Rashid, W Rhodes, M Waite, D Willey