Mae Abertawe wedi cytuno ar bris am gyn-ymosodwr Juventus, y Sbaenwr Fernando Llorente.

Er bod gan yr ymosodwr talsyth 31 oed gytundeb am ddwy flynedd arall gyda Sevilla, mae disgwyl iddo gael prawf meddygol gan Yr Elyrch heddiw.

Ond mae’r clwb yn dal i chwilio am ymosodwr arall wedi i Alberto Paloschi, Eder a Bafetimbi Gomis adael dros yr Haf.

Mae’r Elyrch wedi bod yn holi a oes posib arwyddo’r Archentwr Leonardo Ulloa, ymosodwr Caerlŷr.

Chwaraewr rhyngwladol

Mae Llorente wedi sgorio saith gôl mewn 24 gêm dros Sbaen, ac fe symudodd i Juventus yn 2013 ar ôl cyfnod o chwarae gwych i Athletic Bilbao.

Wedi dau dymor yn Yr Eidal fe symudodd nôl i Sbaen, gan sgorio saith gôl mewn 36 gêm i Sevilla y tymor diwethaf.