Ni fydd Cymru’n rhoi gormod o sylw i’r frwydr arfaethedig rhwng Gareth Bale a Cristiano Ronaldo wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer rownd gyn-derfynol Ewro 2016 yn erbyn Portiwgal yn Lyon nos Fercher.
Bydd y ddau chwaraewr sy’n gyd-chwaraewyr yn Real Madrid yn herio’i gilydd am le yn rownd derfynol cystadleuaeth ryngwladol fwyaf Ewrop yn y Stade de France.
Yn ôl rhai sylwebwyr, gallai Bale neu Ronaldo ennill gwobr y Ballon d’Or yn dilyn llwyddiant Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Ond fe fydd sylw Chris Coleman wedi’i hoelio ar gyrraedd y rownd derfynol.
Wrth drafod y frwydr rhwng Bale a Ronaldo, dywedodd Coleman: “Allwn ni ddim effeithio hynny – dydw i, fy staff nac unrhyw un o’m chwaraewyr ddim yn gallu effeithio’r hyn sy’n cael ei ddweud am y gêm sydd ar y gorwel.
“Y cyfan allwn ni ei effeithio yw ni ein hunain. Os ydyn ni’n gadael i bobol o’r tu allan wneud i ni deimlo ryw ffordd arbennig, ein problem ni yw honno.”
Pwysleisiodd Coleman mai “bod yn hyderus a chadw at gredoau” fydd ei neges i’r chwaraewyr.
“All neb wneud i chi deimlo’n wael amdanoch chi’ch hun oni bai eich bod yn rhoi caniatâd iddyn nhw.”
Un arall o griw Real Madrid fydd yn chwarae yn y gêm yw amddiffynnwr canol Portiwgal, Pepe, ond mae Coleman yn benderfynol na fydd cyfeillgarwch Bale â’i wrthwynebwyr yn bwysig ar y noson.
“Bydd gyda ni ddau o chwaraewyr gorau’r blaned sy’n nabod ei gilydd yn dda iawn.
“Fydd yna ddim cariad rhyngddyn nhw ar y noson o safbwynt y ddau dîm, nid Gareth a Cristiano yn unig, felly bydd rhaid i unrhyw gyfeillgarwch aros tan ar ôl y gêm.”
Cymru heb Ramsey a Davies
Dau o chwaraewyr Cymru sydd wedi’u gwahardd ar gyfer y gêm yw Aaron Ramsey a Ben Davies, ac mae Coleman wedi dweud ei fod yn cydymdeimlo â nhw.
“Rhaid i chi deimlo dros Ben ac Aaron oherwydd maen nhw wedi gwneud cymaint i sicrhau ein bod ni’n cyrraedd lle’r ydyn ni.
“Dyna’r rheolau ond ro’n i’n teimlo bod carden felen Aaron braidd yn llym.
“Dw i’n teimlo dros Aaron a Ben oherwydd bod lefel y bêl-droed, y dwyster a’r emosiwn mor uchel nes bod dwy garden felen mewn pum gêm i gael gwaharddiad braidd yn llym.
“Maen nhw’n ddau chwaraewr rhagorol ond dydy hi ddim fel pe na baen ni wedi bod hebddyn nhw o’r blaen a dw i ddim yn poeni am bwy bynnag sy’n camu i mewn.”