Mae amddiffynnwr tîm pêl-droed Cymru, Neil Taylor wedi galw am ddiwrnod o wyliau yng Nghymru wrth i’r garfan baratoi i herio Portiwgal yn rownd gyn-derfynol Ewro 2016 yn Ffrainc nos Fercher.

Mae’r gic gyntaf yn Lyon am 8 o’r gloch, ond yn ôl Taylor, ni ddylid disgwyl i bobol fynd i’r gwaith am y diwrnod cyn dechrau’r gêm.

“Rwy’n cael gweld lluniau o gartref ac ry’ch chi’n cael y teimlad y gallen nhw fod yn cael gŵyl banc ar gyfer hyn,” meddai wrth bapur newydd y South Wales Evening Post.

“Efallai y gallen nhw ei wneud e ar gyfer y gêm yn erbyn Portiwgal neu fe fydd yna lawer iawn o bobol yn cael eu taro’n wael y diwrnod hwnnw.”

Cyfaddefodd na fyddai’r garfan yn sylweddoli beth yn union maen nhw wedi’i gyflawni tan iddyn nhw ddod adref ar ôl y gystadleuaeth.

“Mae yna lot o emosiynau yn yr ystafell newid yna. Mae e yno i ni, ry’n ni wedi bod yn credu y gallwn ni guro unrhyw un.”

Dywedodd Taylor y byddai Gwlad Belg wedi gobeithio herio Cymru, ac nid Portiwgal, ond efallai eu bod nhw wedi newid eu meddyliau ar ôl gweld y gêm nos Wener.

“Ry’n ni bob amser wedi dweud bod y cyfan amdanon ni a dyn ni ddim yn dweud celwyd pan ydyn ni’n dweud y pethau hyn ac roedden ni’n haeddu ennill.”