Chris Coleman yn dathlu yn Ffrainc
Mae Chris Coleman wedi dweud bod gan garfan bêl-droed Cymru eu “traed ar y ddaear” wrth iddyn nhw aros i glywed pwy fyddan nhw’n herio yn rownd yr 16 olaf yn Ewro 2016 yn Ffrainc.
Mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn dydd Mercher, dywedodd Coleman fod “unrhyw beth yn bosib” yn y byd pêl-droed.
Ond fe ddywedodd nad yw’n fodlon edrych y tu hwnt i’r gêm brynhawn dydd Sadwrn yn y Parc des Princes ym Mharis ar ôl sicrhau eu lle drwy guro Rwsia o 3-0 yn Toulouse nos Lun i orffen ar frig Grŵp B.
‘Bwrw iddi’
“Rhaid i ni sicrhau bod ein traed yn solet ar y ddaear yma. Mae pawb yn sôn am ‘y posibilrwydd hwn’ neu ‘y posibilrwydd arall’. Mae unrhyw beth yn bosibl yn y byd pêl-droed.
“Un funud rydych chi yno ac mae popeth yn wych, a’r funud nesaf, rydych chi’n tynnu’ch llygaid oddi ar y bêl ac mae’n cwympo i lawr.
“Yn rownd yr 16 olaf, pwy bynnag sydd yno, rydych chi’n bwrw iddi.
“Dw i’n gwybod ar y lefel yma fod rhaid i chi ganolbwyntio ar y busnes sydd o’ch blaen chi. Felly does dim sôn yn fy nghriw i am bwy fydd nesaf ar ôl yr 16 olaf.”
‘Neb yn fwy addas na’i gilydd’
Ar hyn o bryd, mae’n debygol y bydd Cymru’n herio un o blith Albania, Gogledd Iwerddon neu Dwrci, ond mae’n dibynnu ar ragor o ganlyniadau nos Fercher.
Ond yn ôl Coleman, does yna’r un tîm yn fwy addas na’i gilydd o safbwynt Cymru.
“Byddwn i’n dweud celwydd pe bawn i’n dweud ‘byddai hwn yn siwtio ni’n well’ neu ‘byddai’r rhain yn ein siwtio ni’n well’. Mae peryglon a heriau mewn unrhyw gêm gawn ni, yn union fel y tair gêm gyntaf.
“Bydd ganddyn nhw gryfderau a gwendidau, yn union yr un ffordd ag y byddan nhw’n edrych arnon ni. Pwy bynnag ydyn nhw, dyna ni.”