Wedi noson hanesyddol arall i dîm Cymru yn Ewro 2016, Owain Schiavone sy’n asesu perfformiadau unigol y chwaraewyr.
Roedd yn berfformiad gwefreiddiol a chanlyniad ardderchog i Gymru’n erbyn Rwsia yn Toulouse neithiwr, a dynion Chris Coleman yn llwyddo i greu hanes unwaith eto trwy sicrhau eu lle yn un ar bymtheg olaf pencampwriaeth Ewro 2016.
Efallai nad Rwsia oedd y gwrthwynebwyr cryfa’, ond rhaid cofio eu bod nhw wedi ennill pwynt yn erbyn Lloegr ac er tegwch iddyn nhw, byddai Cymru wedi achosi problem i unrhyw dîm neithiwr.
Yn hyn sydd wedi bod yn nodwedd gyson yn ystod yr ymgyrch i gyrraedd Ewro 2016, a thros y 10 diwrnod diwethaf ydy ysbryd tîm carfan Cymru ac roedd neithiwr eto’n berfformiad tîm go iawn gyda phawb yn gwneud cyfraniad gwerth chweil. Wedi dweud hynny, dyma grynhoi y perfformiadau unigol:
Wayne Hennessey – Doedd dim llawer gan Rwsia i’w gynnig yn ymosodol, er bod rhywun bob amser yn ymwybodol o gysgod y cawr o ymosodwr, Dzyuba. Chafodd Hennessey ddim gormod i’w wneud heblaw am un arbediad da o ymdrech yr ymosodwr wedi cic hir, ac ambell groesiad peryglus. Soled. 7
Chris Gunter – Mae Gunter wedi cael pencampwriaeth gweddol dawel hyd yma heb fygwth gymaint ag arfer gyda’i rediadau ymosodol yn erbyn Slofacia a Lloegr. Roedd y Chris Gunter y gwelon ni neithiwr yn un mwy cyfarwydd oedd yn cynnig opsiwn gyson ar yr asgell i Ramsey, Allen a Ledley. 7
Neil Taylor – Ro’n i’n un o’r nifer oedd yn siomedig â pherfformiad Taylor yn erbyn Lloegr, wrth i Kyle Walker redeg reiat lawr asgell dde y Saeson. Fel Gunter, roedd cefnwr Abertawe’n llawer mwy ymosodol neithiwr ac er bod elfen fawr o lwc ar gyfer ei gôl, roedd o’n y lle iawn ar yr amser iawn i sgorio’i gôl gyntaf dros ei wlad. 8
Ben Davies – Ardderchog yn erbyn Slofacia, ond fel gweddill yr amddiffyn, dan bwysau yn erbyn Lloegr. Roedd o’n edrych yn gyfforddus eto yng nghanol yr amddiffyn neithiwr ac mae’r gallu sydd ganddo i gario’r bêl a dechrau ymosodiadau o’r safle hwnnw’n arf i dîm Cymru. 8
James Chester – Does wybod pam bod hwn heb fod yn dechrau i West Brom dros y tymor diwethaf, a gobeithio bod ei reolwr, Tony Pulis, yn sylweddoli’r hyn y gall gynnig ar ôl gwylio’r gêm o’r dorf neithiwr. Cadarn a di-lol, ac fel Davies yn gyfforddus ar y bêl. 8
Ashley Williams – Mae capten Cymru’n arwain trwy esiampl, ac unwaith eto neithiwr roedd yn graig yng nghanol yr amddiffyn. Dwi dal yn amheus am ei safle (‘positioning’ fel petai) ar adegau, ond mae’n llwyddo i achub ei gam fel arfer. 7
Joe Ledley – Ro’n i’n ansicr ynglŷn â’r ffitrwydd wrth wylio gêm Lloegr gan feddwl y byddai Edwards yn dechrau hon, ond dangosodd ei werth gan gau lle’r gwrthwynebwyr a chynnig llwyfan i’w gyd-chwaraewyr mwy creadigol. Blino tua’r diwedd. 7
Joe Allen – Tîm un dyn? Go brin, ac i mi mae Allen yn dechrau cystadlu gyda Bale o ran ei bwysigrwydd i’r tîm yma. Yng nghanol popeth o’r eiliad gyntaf nes yr olaf. Roedd ei reolaeth ac yna’i bas i greu gôl Ramsey yn lledrithiol. Gwych, jyst gwych. 9
Aaron Ramsey – Dwi wedi bod yn feirniadol o Ramsey ar sawl achlysur yn ddiweddar, a hynny’n syml iawn gan fy mod i’n gwybod bod ganddo lawer mwy i’w gynnig. Fe ddangosodd hynny neithiwr yn ei gêm orau dros ei wlad hyd yma. Fel Allen roedd yng nghanol popeth. Fe gymerodd ei gyfle’n wych ar gyfer ei gôl, a rhoi gôl Bale ar blât iddo. Os welwn ni fwy o hyn yn y gêm (au) nesaf bydd y llyfrau siec yn Sbaen yn cael eu hestyn. 9 – Seren y gêm
Gareth Bale – Heb danio hyd yma yn y bencampwriaeth, efallai oherwydd gofynion tactegol neu efallai nad yw 100% yn ffit. Roedd Bale yn beryg bywyd neithiwr ac yn chwilio am bob cyfle i redeg at y gwrthwynebwyr ac ergydio at gôl gan brofi’r golwr ar sawl achlysur. Doedd yr anel o’i gic rydd ddim cystal â’r ddwy gêm ddiwethaf yn anffodus, ond daeth y cyfle mawr wedi gwaith gwych Ramsey a doedd Bale ddim am fethu cyfle un yn erbyn un gyda’r golwg. Arbennig, ond mae mwy i ddod gan y seren. 8
Sam Vokes – Tipyn o syndod i’w weld yn dechrau yn yr ymosod gyda disgwyl i redeg Hal Robson-Kanu achosi problemau i amddiffyn hen ac araf Rwsia. Er hynny, fe wnaeth ei waith yn dda gan ennill y bêl gyda’i ben yn gyson a dal i bêl i fyny i Ramsey a Bale. Perfformiad clodwiw. 7
Eilyddion:
David Edwards – Chwarter awr o gêm i roi egwyl i Allen gyda’r gêm wedi’i hennill. Bywiog. 7
Andy King – Ymddangosiad cyntaf enillydd Uwch Gynghrair Lloegr wrth i Ledley flino. Dim o’i le. 6
Simon Church – Eilydd hwyr i roi hoe i Bale. Dim cyfle i wneud llawer. 5