Chris Coleman yn gobeithio codi safonau ymhlith cenedlaethau'r dyfodol
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi datgelu rhaglen bartneriaeth newydd rhwng Cymru a Llydaw ar gyfer pobol ifainc.
Cafodd y rhaglen ei chyhoeddi’n ffurfiol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Ligue de Bretagne de Football ar gae hyfforddi Cymru yn Dinard yn Ffrainc wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Ewro 2016.
Fel rhan o’r cynllun, fe fydd tîm merched dan 15 oed Llydaw yn dod i Barc y Ddraig yng Nghymru ar gyfer dwy gêm, tra bydd tîm y bechgyn yn teithio i Lydaw.
Bydd y merched yn teithio i Lydaw yn 2018, tra bydd y bechgyn yn croesawu’r tîm o Lydaw.
Dywedodd Chris Coleman: “Mae’r trefniant yma’n golygu y bydd ein cenhedlaeth nesaf ni o sêr yn cael profiad o baratoi ar gyfer y cyfandir a’r gwrthwynebwyr sydd yno o oedran llawer iau nag o’r blaen.
“Mae’r rhaglen yma’n ganlyniad gwych i gyfranogiad Cymru yn Ewro 2016. Mae Ymddiriedolaeth CBDC wedi gwneud gwaith gwych yn elwa o hynny. Maen nhw’n deall y bydd y genhedlaeth nesaf yn dod drwodd yn cynhyrchu gwell hyfforddwyr a gwell chwaraewyr. A dyna union bwrpas y rhaglen gyfnewid yma.”
‘Codi safon’
Ychwanegodd is-reolwr Cymru, Osian Roberts: “Mae’n rhaid i ni ddal ati i godi’r safon wrth baratoi ein chwaraewyr ifanc – nhw ydi’r llinell gynhyrchu ar gyfer ein timau cenedlaethol ni.
“Rydyn ni wedi gwneud hynny eisoes o ran gwyddoniaeth a seicoleg chwaraeon ac mae’r rhaglen gyfnewid yma’n gam arall eto tuag at greu dyfodol gwell i bêl droed yng Nghymru.”