Hal Robson-Kanu yn wynebu'r wasg yn Dinard heddiw (llun:Joe Giddens/PA)
Mae Hal Robson-Kanu wedi dweud ei fod yn hollol ffit ac yn barod i wynebu Slofacia yng ngornest agoriadol Cymru yn Ewro 2016 ddydd Sadwrn.

Roedd yr ymosodwr wedi bod yn dioddef â thrafferthion gyda’i bigwrn dros yr wythnosau diwethaf, ac fe fethodd y gêm gyfeillgar baratoadol yn erbyn Sweden dydd Sul oherwydd yr anaf.

Ond wrth siarad â’r wasg ddydd Mercher yng ngwersyll y tîm yn Dinard, Llydaw, fe ddywedodd cyn-flaenwr Reading ei fod yn holliach ac yn barod i arwain y linell flaen.

“Dw i wedi ymarfer. Dw i’n teimlo’n dda, yn ffres. Erbyn dydd Sadwrn fe fyddai 100%,” meddai Robson-Kanu.

Y ddau Joe yn gwella

Mae rheolwr Cymru Chris Coleman hefyd yn dal i aros i glywed y diweddaraf ynglŷn ag anafiadau i ddau o’i chwaraewyr canol cae allweddol, Joe Ledley a Joe Allen.

Er mai dim ond mis yn ôl y torrodd Ledley asgwrn yn ei goes mae wedi gwella’n syfrdanol o gyflym, ac mae disgwyl iddo fod ar y fainc ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn.

Roedd Allen yn un arall a fethodd y gêm yn erbyn Sweden, a hynny oherwydd problem gyda’i ben-glin, ond mae disgwyl i chwaraewr Lerpwl fod yn barod i ddechrau yn erbyn Slofacia ymhen tridiau.