Wimbledon 1–0 Casnewydd                                                         

Daeth tymor cymharol siomedig Casnewydd i ben wrth iddynt golli gêm olaf y tymor oddi cartref yn erbyn Wimbledon yn Kingsmeadow brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Alltudion wedi gwneud digon i aros yn yr Ail Adran ychydig wythnosoau yn ôl ond gorffen yn siomedig a wnaeth eu tymor wrth i’w rhediad gwael barhau tan y penwythos olaf.

Nid oedd Casnewydd wedi ennill ers y deuddegfed o Fawrth ac felly y mae hi’n aros wedi i gic o’r smotyn hwyr Toyosi Olusanya sicrhau’r fuddugoliaeth i Wimbledon. Cafodd yr eilydd ei lorio yn y cwrt cosbi gan Ben Davies cyn codi ar ei draed i rwydo o ddeuddeg llath.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Casnewydd yn gorffen y tymor yn yr ail safle ar hugain yn nhabl yr Ail Adran, naw pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.

.

Wimbledon

Tîm: Shea, Guller, Nightingale, Sweeney, Kennedy, Smith (Beere 38’), Reeves, Fitzpatrick, Azeez (Rigg 63’) Murphy (Olusanya 73’), Akinfenwa

Gôl: Olusanya [c.o.s.] 80’

.

Casnewydd

Tîm: Taylor, Holmes, Partridge, Hughes, Davies, Rodman, Byrne, Owen-Evans (O’Sullivan 63’), Barrow (Meechan 83’), John-Lewis (Coulibaly 62’), Boden

.

Torf: 4,427