West Ham 1–4 Abertawe                                                                

Mae diweddglo da Abertawe i’r tymor yn parhau wedi iddynt drechu West Ham yn gyfforddus ar Barc Upton brynhawn Sadwrn.

Gwnaeth Francesco Guidolin chwe newid i’r tîm a gurodd Lerpwl ar y Liberty ddydd Sul, ond wnaeth hynny ddim atal yr Elyrch rhag mynd un yn well a waldio’r Hammers o bedair gôl i un.

West Ham a ddechreuodd orau ond Abertawe a aeth ar y blaen ugain munud cyn yr egwyl pan rwydodd Wayne Routledge o groesiad Kyle Naughton.

Dyblodd Andre Ayew’r fantais chwe munud yn ddiweddarach o groesiad Stephen Kingsley, a felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Ychwanegodd Ki Sung-yueng y drydedd yn gynnar yn yr ail hanner wedi gwaith creu Modou Barrow.

Ac er i Kingsley roi’r bêl yn ei rwyd ei hun hanner ffordd trwy’r ail hanner fe goronodd yr eilydd, Bafetimbi Gomis, fuddugoliaeth yr Elyrch gyda phedwaredd yn dilyn gwrthymosodiad chwim.

Mae’r canlyniad yn codi Abertawe i’r unfed safle ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair ac fe all buddugoliaeth gartref yn erbyn Man City yr wythnos nesaf olygu eu bod yn gorffen y tymor yn yr hanner uchaf.

.

West Ham

Tîm: Randolph, Antonio, Reid, Ogbonna, Cresswell, Kouyate (Emenike 77’), Noble, Moses (Sakho 59’), Lanzini (Valencia 84’), Payet, Carroll

Gôl: Kingsley [g.e.h] 68’

Cardiau Melyn: Sakho 72’, Reid 81’, Ogbonna 85’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Amat, Kingsley, Fer, Cork, Ki Sung-yueng, Barrow (Rangel 70’), Ayew, Routledge (Gomis 82’)

Goliau: Routledge 25’, Ayew 31’, Ki Sung-yueng 51’, Gomis 90+3’

.

Torf: 34,907