Fydd dim alcohol ar gael i gefnogwyr fydd yn teithio ar drenau Eurostar i'r gem
Mae aelod blaenllaw o ffederasiwn cefnogwyr Cymru wedi dweud bod yr awdurdodau yn bod yn ‘rhy ofalus’ wrth wahardd alcohol ar drenau fydd yn mynd i gêm Cymru v Lloegr yn Ewro 2016.
Fe gyfaddefodd Paul Corkrey o FSF Cymru ei fod yn deall pam fod y gwaharddiad yn ei le, ond bod y mesurau hynny’n anghyson ac na fyddai cefnogwyr rygbi’n cael eu trin yr un fath.
Mae cwmni Eurostar wedi dweud na fyddan nhw’n gwerthu diodydd meddwol ar y trenau fydd yn cludo cefnogwyr o Brydain i Ffrainc ar gyfer yr ornest yn Lens ar 16 Mehefin.
Ni fydd hawl chwaith gan gefnogwyr i fynd ag alcohol eu hunain gyda nhw ar y trenau, ac mae cwmni fferis P&O wedi dweud y byddan nhw’n ceisio cadw cefnogwyr y ddwy wlad ar wahân ar deithiau fydd yn mynd i’r gêm.
Miloedd yn teithio
Yn ôl Eurostar, sy’n rhedeg trenau rhwng Llundain a Ffrainc, fe gafodd y penderfyniad ei wneud ar sail ymgynghoriad gydag awdurdodau Prydain a Ffrainc.
Mae disgwyl i ddegau o filoedd o Gymry a Saeson deithio i Ffrainc ar y trenau a’r llongau ar gyfer y gystadleuaeth sydd yn dechrau fis nesaf.
Bydd trenau ychwanegol hefyd yn rhedeg ar ddiwrnod y gêm rhwng Cymru a Lloegr, gyda’r ddau dîm wedi cael eu dewis i wynebu’i gilydd yng Ngrŵp B sydd hefyd yn cynnwys Slofacia a Rwsia.
‘Wedi arfer erbyn hyn’
Dywedodd Paul Corkery o grŵp cefnogwyr FSF Cymru ei fod yn credu mai bod yn rhy ofalus, yn hytrach na thargedu cefnogwyr pêl-droed, oedd yr awdurdodau wrth gyflwyno mesurau o’r fath.
“Maen nhw’n credu mai atal pobol rhag meddwi’n ormodol yw’r ffordd orau ymlaen,” meddai wrth golwg360.
“Fydden nhw ddim yn gwneud hyn ar gyfer cefnogwyr rygbi na rasio ceffylau ond dyna sut mae hi wedi bod ers blynyddoedd maith. Mae’r diogelwch cymaint yn uwch.
“Ry’ch chi’n cael cymaint o heddluoedd gyda’i gilydd, mae ganddyn nhw i gyd eu syniadau gwahanol. Dydyn nhw ddim yn gwneud hyn er mwyn bod yn gas nac yn sbeitlyd. Dyna sut maen nhw.
“Gall pobol mewn ceir wneud fel y mynnon nhw. Mae hwn yn gam maen nhw’n ei gymryd jyst oherwydd eu bod nhw’n gallu gwneud hynny.”