Sheffield Wednesday 3–0 Caerdydd
Mae gobeithion Caerdydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth ar ben wedi iddynt golli yn erbyn Sheffield Wednesday yn Hillsborough brynhawn Sadwrn.
Roedd angen tri phwynt ar yr Adar Gleision os am unrhyw obaith o ddal Wednesday yn y chweched safle ond mae’r frwydr drosodd wedi i dair gôl ail hanner sicrhau buddugliaeth i’r tîm cartref.
Gary Hooper a ddaeth agosaf at agor y sgorio mewn hanner cyntaf di sgôr ond tarodd ergyd o bellter y blaenwr cartref yn erbyn y postyn.
Hooper a gafodd y gôl agoriadol serch hynny toc wedi’r awr, yn rhwydo ar yr ail gynnig wedi David Marshall arbed cynnig gwreiddiol Daniel Pudil.
Camgymeriad Marshall a arweinodd at ail Wednesday chwarter awr o’r diwedd; ceisiodd y gôl geidwad hebrwng y bêl allan am gic gôl ond llwyddodd Hooper i’w chadw hi’n fyw cyn i Lee Peltier wyro’r bêl i’w rwyd ei hun.
Gorffennodd Hooper brynhawn da iddo ef ei hun a’i dîm wrth rwydo’r drydedd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn y seithfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth, saith pwynt y tu ôl i Wednesday yn y chweched safle gyda dim ond un gêm ar ôl.
.
Sheffield Wednesday
Tîm: Westwood, Hunt, Loovens, Lees, Pudil (Helan 81’), Lee, Lopez, Bannan, Hooper, Lucas João (Matias 86’), Forestieri (Nuhiu 70’)
Goliau: Hooper 64’, [c.o.s.] 90+4’, Peltier [g.e.h.] 75’
Cerdyn Melyn: Forestieri 31’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Peltier, Morrison (Ecuele Manga 62’), Connolly, Malone, Noone, O’Keefe, Dikgacoi (Harris 72’), Wittingham, Pilkington (Ameobi 20’), Zohore
Cardiau Melyn: O’Keefe 24’, Connolly 54’, Malone 74’
.
Torf: 31,843