Dyw Gareth Bale dal heb ennill La Liga eto ers symud i Sbaen yn 2013 (llun: Adam Davy/PA)
Llwyddodd Gareth Bale i gadw gobeithion Real Madrid o ennill La Liga yn fyw ar ôl sgorio dwy gôl i gipio buddugoliaeth i’w dîm.
Roedd Los Blancos ar ei hôl hi o 2-0 yn erbyn Rayo Vallecano cyn i Bale benio un yn ôl, ac ar ôl i Lucas Vazquez unioni’r sgôr yn yr ail hanner fe garlamodd Bale i ffwrdd gyda deng munud i fynd i rwydo’i ail ac ennill y gêm o 3-2.
Mae Andy King a Chaerlŷr hefyd gam yn nes at gipio’r gynghrair yn Lloegr ar ôl buddugoliaeth gyfforddus o 4-0 yn erbyn Abertawe.
Daeth King oddi ar y fainc a chyfrannu at y bedwaredd gôl, ond roedd hi’n brynhawn siomedig i Neil Taylor ac Ashley Williams yn enwedig, gyda chapten Abertawe ar fai am y ddwy gôl gyntaf.
Fe chwaraeodd Aaron Ramsey 90 munud i Arsenal wrth iddi orffen yn ddi-sgôr rhyngddyn nhw â Sunderland, gyda’r Gunners yn aros yn bedwerydd yn y tabl.
Gorffennodd hi’n 2-2 rhwng Lerpwl a Newcastle, gyda Joe Allen yn chwarae 72 munud a Danny Ward ar y fainc i’r tîm cartref, a Paul Dummett yn cael gêm lawn i’r ymwelwyr.
Gwyliodd Shaun Macdonald a Rhoys Wiggins o’r fainc wrth i Bournemouth golli o 4-1 i Chelsea.
Ac yng Nghwpan FA Lloegr mae Wayne Hennessey a Joe Ledley drwyddo i’r ffeinal gyda Crystal Palace ar ôl iddyn nhw drechu Watford o 2-1 dros y penwythnos.
Roedd Hennessey nôl yn y gôl, ond Ledley ar y fainc, wrth i’r Eryrod ennill a sicrhau mai nhw fydd yn chwarae Manchester United yn y ffeinal ar 21 Mai.
Y Bencampwriaeth
Mae Burnley nôl ar frig y Bencampwriaeth gyda dwy gêm i fynd ar ôl trechu Preston o 1-0, gyda Sam Vokes yn chwarae gêm lawn.
David Cotterill a Joel Lynch oedd y sgorwyr wrth iddi orffen yn 1-1 rhwng Huddersfield a Birmingham, gyda Cotterill yn rhwydo cic rydd wych, ac Emyr Huws hefyd yn chwarae gêm lawn ac yn dod yn agos at gael gôl.
Daeth Tom Lawrence oddi ar y fainc i Gaerdydd wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth hwyr o 2-1 yn erbyn Bolton sydd yn cadw’u gobeithion nhw o sicrhau lle yn y gemau ail gyfle yn fyw.
Dechreuodd Jonny Williams a Joe Walsh wrth i MK Dons golli yn erbyn Brentford a disgyn allan o’r Bencampwriaeth, gyda’r ddau yn cael eu heilyddio gyda llai nag awr o’r gêm wedi’i chwarae.
Yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Dave Edwards a Morgan Fox 90 munud i’w clybiau, cafodd Adam Matthews 57 munud cyn cael ei eilyddio, a daeth Chris Gunter ymlaen oddi ar y fainc.
Ond roedd David Vaughan, Jazz Richards a Hal Robson-Kanu ymysg y rheiny oedd yn absennol.
Yn Uwch Gynghrair yr Alban mae gobeithion Simon Church ac Aberdeen o ennill y gynghrair mwy neu lai ar ben ar ôl iddyn nhw golli 3-0 i St Johnstone, ond fe gododd Owain Fôn Williams ac Inverness i’r wythfed safle ar ôl trechu Kilmarnock o 3-1.
Ac yng Nghynghrair Un cafodd gobeithion Tom Bradshaw a Walsall o orffen yn y ddau safle uchaf glec fawr wedi iddyn nhw golli o 4-0 yn erbyn Bradford.
Seren yr wythnos – Gareth Bale. Yn absenoldeb Ronaldo, fe ysgwyddodd Bale y baich o achub y gêm i’w dîm.
Siom yr wythnos – Ashley Williams. Pas lac yn caniatáu Riyad Mahrez i sgorio gôl gyntaf Caerlŷr, ac wedi Leonardo Ulloa yn ei guro i beniad ar gyfer yr ail.