Caerdydd 2–1 Bolton
Mae gobeithion main Caerdydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn fyw o hyd diolch i gôl hwyr Peter Wittingham yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.
Cyfartal, gôl yr un oedd hi wrth i’r naw deg munud ddod i ben ond cipiodd Wittingham y tri phwynt i’w dîm wrth sgorio o’r smotyn yn y pedwerydd munud o’r amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Aeth Bolton ar y blaen wedi dim ond saith munud diolch i gic rydd gywir Zach Clough. Newidiodd y gêm serch hynny wedi ychydig dros hanner awr o chwarae pan gafodd Niall Maher gerdyn coch am roi pen elin i Craig Noone.
Arhosodd yr ymwelwyr ar y blaen tan yr hanner ond yn ôl y daeth yr Adar Gleision wedi’r egwyl gyda Kenneth Zohore yn unioni pethau yn dilyn rhediad pwrpasol Noone o’i hanner ei hun.
Gwastraffodd Sammy Ameobi a Stuart O’Keefe gyleoedd i’w hennill hi wedi hynny ac roedd hi’n ymddangos fel y byddai hi’n aros yn gyfartal.
Ond daeth un cyfle arall i’r Adar Gleision yn yr eiliadau olaf un yn dilyn trosedd Tyler Garrett ar Kadeem Harris yn y cwrt cosbi. Wittingham a gymerodd y gic gan rwydo i gipio tri phwynt holl bwysig i’r tîm cartref.
Wedi gêm gyfartal i Sheffield Wednesday yn Derby yn y gêm gynharach roedd hwn yn gyfle i Gaerdydd gau’r bwlch. Golygai’r fuddugoliaeth eu bod yn gwneud hynny, yn aros yn seithfed ac yn cau’r bwlch i bedwar pwynt gyda dwy gêm ar ôl. Taith i Hillsborough i wynebu Wednesday sydd yna aros yr Adar Gleision yn y gêm nesaf.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly (Harris 80’), Malone, Noone, O’Keefe, Ralls (Ameobi 45’), Wittingham, Pilkington, Zohore (Lawrence 66’)
Goliau: Zohore 55’, Wittingham [c.o.s.] 90+4’
Cerdyn Melyn: Morrison 30’
.
Bolton
Tîm: Amos, Threlkeld, Holding, Wheater, Maher, Osede Prieto, Danns, Vela, Pratley (Garrett 34’), Clough, Heskey (Woolery 58’)
Gôl: Clough 7’
Cerdyn Coch: Maher 32’
.
Torf: 24,189