A yw Real Madrid wedi gadael pethau'n rhy hwyr, neu oes ganddyn nhw dal obaith o fod yn dathlu ar ddiwedd y tymor? (llun: Manu Fernandez/AP)
Ychydig wythnosau yn ôl roedd gobeithion Real Madrid o ennill La Liga yn deilchion, a hwythau ddeg pwynt y tu ôl i Barcelona.
Ond ers hynny mae’r Catalaniaid wedi colli tair o’r bron, a dros y penwythnos roedd buddugoliaeth Real o 5-1 yn erbyn Getafe yn ddigon i gau’r bwlch i bwynt, gydag Atletico Madrid hefyd yn hafal ar y brig.
Rhwydodd Gareth Bale y drydedd o’r goliau hynny, ei 16eg o’r tymor yn La Liga, ac mae’n golygu fod ei freuddwyd o ennill y gynghrair yn Sbaen am y tro cyntaf yn fyw o hyd.
Yn Uwch Gynghrair Lloegr fe wnaeth Danny Ward ei ymddangosiad cyntaf dros Lerpwl wrth i Jurgen Klopp roi gêm i sawl un o’r chwaraewyr sydd ar gyrion y tîm.
Dechreuodd Joe Allen hefyd, gyda’r ddau Gymro’n cael gêm ddigon da, wrth i’r Cochion drechu Bournemouth o 2-1.
Daeth Aaron Ramsey ymlaen fel eilydd am yr 15 munud olaf wrth i Arsenal gael gêm gyfartal 1-1 gartref yn erbyn Crystal Palace, gyda Wayne Hennessey a Joe Ledley yn cael gemau llawn.
Gwylio o’r fainc unwaith eto oedd Andy King wrth i Gaerlŷr gymryd cam bychan arall tuag at y bencampwriaeth ar ôl achub pwynt hwyr yn erbyn West Ham, oedd â James Collins nôl ymysg eu heilyddion ar ôl anaf.
Roedd Paul Dummett hefyd nôl yn nhîm Newcastle ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr, ac fe helpodd y Magpies i fuddugoliaeth hollbwysig o 3-0 dros Abertawe yn eu brwydr nhw i aros yn y gynghrair.
Er bod Abertawe’n saff rhag y cwymp bellach ni fydd Ashley Williams a Neil Taylor yn hapus o fod wedi ildio tair gôl, ond fe allai’r canlyniad wedi bod yn un gwahanol petai ergyd Williams yn gynharach yn y gêm ddim wedi methu’r postyn o drwch blewyn.
Ac fe chwaraeodd James Chester 68 munud cyn cael ei eilyddio wrth i West Brom golli 1-0 yn erbyn Watford.
Y Bencampwriaeth
Yn y Bencampwriaeth fe gododd Burnley nôl i’r ail safle gyda buddugoliaeth o 2-1 dros David Cotterill a Birmingham, ond fe fethodd Sam Vokes y gêm ag anaf.
Nos Wener fe sgoriodd Dave Edwards â pheniad i Wolves, er mai colli o 2-1 yn y diwedd oedd eu hanes nhw yn erbyn Hull.
Fe chwaraeodd Emyr Huws a Joel Lynch gemau llawn wrth i Huddersfield drechu Blackburn o 2-0, gydag Adam Henley yn gwylio o’r fainc.
Methodd Caerdydd y cyfle i gau’r bwlch ar y chwech uchaf, gyda Tom Lawrence yn cael ei adael ar y fainc wrth i’r gêm rhwng yr Adar Gleision a QPR orffen yn ddi-sgôr.
Mae Morgan Fox a Charlton bellach bron yn sicr o fod yn ffarwelio â’r gynghrair ar ôl colli o 1-0 yn erbyn Derby, canlyniad sydd yn golygu eu bod nhw 11 pwynt o fod yn ddiogel gyda dim ond pedair gêm i fynd.
Tîm arall sydd yn debygol o ymuno â nhw yng Nghynghrair Un ydi MK Dons sydd bellach naw pwynt i ffwrdd o fod yn saff ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Preston.
Fe chwaraeodd Joe Walsh gêm lawn ac fe ddaeth Jonny Williams oddi ar y fainc i’r tîm o Milton Keynes ar gyfer yr ail hanner, ond doedd hynny ddim yn ddigon i gipio’r tri phwynt.
Yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Adam Matthews 81 munud i Bristol City ac roedd David Vaughan a Jazz Richards ar y fainc i Nottingham Forest a Fulham.
Ond roedd Chris Gunter a Hal Robson-Kanu yn absennol i Reading wrth iddyn nhw barhau i wella o anafiadau.
Seren yr wythnos – Joe Allen. Perfformiad cryf arall yng nghanol cae, a hynny ar ôl ei ‘wyrthiau’ nos Iau.
Siom yr wythnos – Aaron Ramsey. Dod ymlaen am chwarter awr dim ond i weld ei dîm yn ildio’r gôl sy’n golygu bod eu gobeithion o ennill y gynghrair mwy neu lai ar ben bellach.