Y Seintiau Newydd 1–2 Y Drenewydd                                       

Y Drenewydd aeth â hi wrth iddynt ymweld â Neuadd y Parc i herio’r Seintiau Newydd yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.

Sgoriodd Matty Owen ddwy gôl wych, un ym mhob hanner wrth i’r pencampwyr golli gartref am y tro cyntaf mewn hanner can gêm.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Seintiau yn dda ac roedd angen arbediad da gan Dave Jones yn y gôl i’r Drenewydd i arbed ergyd Aeron Edwards o bellter wedi deg munud.

Amddiffyn yn drefnus a gwrthymosod oedd tactegau’r ymwelwyr ac fe dalodd hynny ar ei ganfed wedi chwarter awr o chwarae. Gwnaeth Neil Mitchell yn dda ar yr asgell chwith cyn canfod Matty Owen ar ochr y cwrt cosbi, llwyddodd yntau i droi yn gelfydd cyn pasio ergyd gywir i gornel isaf y rhwyd.

Patrwm tebyg oedd i weddill yr hanner wrth i’r Seintiau barhau i bwyso. Cafwyd arbediad da arall gan Jones i atal Ryan Brobbel cyn i Aeron Edwards daro’r postyn gyda chynnig da arall o bellter.

Daeth gôl i’r Seintiau o’r diwedd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner, ond gôl ddadleuol iawn oedd hi. Gwnaeth Brobbel yn dda ar ochr chwith y cwrt cosbi cyn croesi i Jamie Mullan yn y canol, gwyrodd yntau’r bêl i mewn gyda’i fraich ond cafodd y gôl ei chaniatáu gan y dyfarnwr!

Ail Hanner

Y Seintiau Newydd a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant wedi’r egwyl hefyd ond y Robiniaid a aeth ar y blaen mewn steil toc wedi’r awr.

Owen a oedd y sgoriwr unwaith eto, ac os oedd ei gôl gyntaf yn un dda roedd ei ail yn wych, ergyd berffaith o bum llath ar hugain.

Ychydig iawn o gyfleoedd clir a gafodd eu creu gan y tîm cartref er gwaethaf eu rheolaeth a bu rhaid aros tan chwarter awr o’r diwedd cyn i Jones orfod gwneud arbediad da o ergyd Chris Seargeant.

Cafodd Luke Boundford gyfle da i ddyblu mantais y Drenewydd wedi hynny ond crymanodd ei ergyd dros y trawst. Doedd dim angen trydedd arnynt serch hynny wrth iddynt ddal eu gafael tan y diwedd.

Buddugoliaeth gofiadwy i’r Drenewydd felly ond nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn nhabl yr Uwch Gynghrair wrth i’r Drenewydd aros yn chweched a’r Seintiau Newydd ar y brig. Mae’r canlyniad serch hynny yn cadw gobeithion y Bala o ddal y Seintiau yn fyw, pump pwynt sydd yn gwahanu’r ddau dîm gyda thair gêm yn weddill.

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Baker, K. Edwards, Marriott, Seargeant, A. Edwards (Wilde 81’), Mullan, Brobbel, Cieslewicz (Williams 70’), Draper (Quigley 70’)

Gôl: Mullan 45+2’

Cardiau Melyn: Spender 90’ Mullan 90’

.

Y Drenewydd

Tîm: Jones, C. Williams, R. Williams, Mills-Evans, Edwards, Goodwin, Tolley (Cook 60’), Ryan (Evans 83’), Owen, Mitchell, Boundford

Goliau: Owen 16’, 62’

.

Torf: 201